1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau—arweinwyr y pleidiau, hyd yn oed. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 12,000 o wartheg wedi cael eu lladd oherwydd twbercwlosis mewn gwartheg. Mae hyn yn gynnydd anhygoel o 24 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r ffigurau uchaf erioed. Ym mhle mae polisi eich Llywodraeth yn methu?
Yn sicr, nid yw polisi'r Llywodraeth yn methu ar y sail y mae'r Aelod newydd ei hamlinellu. Gadewch i mi ddechrau, fodd bynnag, trwy gydnabod yr effaith enfawr y mae TB yn ei chael yn y gymuned ffermio, y trawma a'r niwed a geir mewn teuluoedd ffermio pan geir TB mewn gwartheg, ond mae'r ffigurau lladd yn ganlyniad i fwy o sensitifrwydd o ran profi, mwy o gyfundrefnau profi—. Rydym ni'n darganfod mwy o TB, ac, felly, mae'r ffigurau lladd wedi codi. Nid yw'n wir bod hwn yn TB nad oedd yno o'r blaen. Roedd yno o'r blaen, ac nid oedd yn cael ei ganfod, a chan nad oedd yn cael ei ganfod, roedd yn dal i beri risg o drosglwyddiad pellach. Felly, mae'r ffaith ein bod ni'n darganfod mwy o TB, ac rwy'n deall yr holl ofid a ddaw yn sgil hynny—ond nid yw'r ffaith bod y ffigurau lladd wedi cynyddu yn arwydd o gwbl ar ei ben ei hun bod y polisi'n methu.
Wel, Prif Weinidog, rydych chi newydd ei ddweud eich hun: rydych chi'n canfod mwy o achosion o TB. A gadewch i ni fod yn eglur: nid yw eich polisi'n gweithio, neu fel arall byddai nifer y gwartheg sy'n cael eu difa oherwydd TB mewn gwartheg yn gostwng, ond yn hytrach, rydym ni'n gweld cynnydd. A pha ffordd bynnag yr ydych chi eisiau edrych ar hyn, mae'r ffaith yn parhau bod y sector ffermio yng Nghymru o dan bwysau enfawr. Rhoddodd y brecwast ffermdy a gynhaliwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma gyfle i ni glywed mwy am yr heriau sy'n wynebu ffermwyr Cymru, ac yr oedd TB mewn gwartheg yn sicr ar frig eu hagenda.
Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, rwyf i fy hun wedi cael profiad uniongyrchol o weld mor anodd a dinistriol y gall TB mewn gwartheg fod i'r ffermwyr hynny y mae'r clefyd yn effeithio arnyn nhw, ac maen nhw'n disgwyl ac yn haeddu mwy gan Lywodraeth Cymru. Methiant eich Llywodraeth chi i fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn gyfannol sy'n gyfrifol am y nifer anghynaladwy o uchel o wartheg sy'n cael eu lladd yng Nghymru, ac yn y cyfamser, mae cymunedau ffermio ledled Cymru yn teimlo eu bod ar wahân, yn cael eu hanwybyddu ac yn cael eu hesgeuluso.
Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, ac o ystyried yr effaith ddifrifol iawn y mae TB mewn gwartheg yn parhau i'w chael ar ffermydd Cymru, yn ariannol ac yn emosiynol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa sicrwydd y gallwch chi ei gynnig i ffermwyr Cymru bod eich Llywodraeth yn gwrando ac y byddwch chi'n diogelu cynaliadwyedd y diwydiant ffermio ar gyfer y dyfodol?
Wel, o ran Llywodraeth Cymru yn gwrando, Llywydd, anerchais gyngor Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr fy hunan brynhawn ddoe, fel y gwneuthum i gynhadledd flynyddol yr FUW y llynedd yn Aberystwyth, wrth i mi gyfarfod gyda'r FUW gyda Lesley Griffiths i siarad â nhw am TB yn benodol. Hoffwn gydnabod y synnwyr o straen sy'n bodoli mewn cymunedau ffermio yma yng Nghymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda'r holl ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny i gymunedau ffermio, ac mae hynny'n wirioneddol iawn, fel y dywedwyd wrthyf ddoe pan gefais gyfarfod â nhw, wedi eu dychryn gan yr hyn yr oedd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud dros y penwythnos am beidio â mynd ar drywydd aliniad rheoleiddiol, er enghraifft.
Cyn belled ag y mae dangosyddion hirdymor o TB yng Nghymru yn y cwestiwn, bu gostyngiad o 37 y cant i ddigwyddiadau newydd dros y degawd diwethaf, gostyngiad o 4 y cant i nifer yr achosion o ladd anifeiliaid yn ystod yr holl gyfnod hwnnw, ac roedd 393 yn llai o fuchesi yn destun cyfyngiadau ar ddiwedd 2018 nag ar ddiwedd 2009. Mae angen i ni wneud mwy. Rwy'n cydnabod hynny. Dyna pam y cefais gyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson, gyda Lesley Griffiths, nid yr wythnos diwethaf ond yr wythnos gynt—arbenigwr blaenllaw'r byd ar TB mewn gwartheg yr ydym ni wedi dod ag ef yma i Gymru, yr ydym ni wedi'i sefydlu gydag athrofa newydd yn Aberystwyth o dan raglen Sêr, gan ddenu ffigurau blaenllaw eraill o'r byd hwn. Dywedodd wrthym ei fod yn credu bod pethau newydd y byddem ni'n gallu rhoi cynnig arnynt yng Nghymru o ganlyniad i'r gwaith ymchwil y mae e'n ei wneud ac mai'r hyn y bydd ei angen arnom ni yw pecyn gwahaniaethol i ymdrin â TB. Mae TB yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mae'r achosion sylfaenol yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac o ganlyniad i'w waith ef a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl eraill, er enghraifft ym Mhenrhyn Gwyr, lle mae gennym ni brosiect penodol iawn law yn llaw â ffermwyr, byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chlefyd sy'n cael effaith mor ddinistriol ar deuluoedd ffermio.
Mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, nad yw ffermwyr ac undebau amaethyddol yn credu bod eich polisi cyfredol ar TB mewn gwartheg yn gweithio a dyna pam mae'n hanfodol nawr bod eich Llywodraeth yn ailystyried y polisi hwn er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn ffordd fwy cyfannol o lawer.
Mae mater brys arall a godwyd gyda mi y bore yma, lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb hefyd, yn ymwneud â pharthau perygl nitradau. Ceir rhai pryderon difrifol iawn ynghylch y cynigion hyn a allai roi baich enfawr ar ffermwyr ac, o ganlyniad, gorfodi llawer allan o fusnes. Felly, mae ffermwyr, yn gywir ddigon, yn gweld y cynigion hyn fel ergyd arall i'r gymuned amaethyddol. Mae'n rhaid, o leiaf, cyhoeddi asesiad o effaith rheoleiddiol, o ystyried yr effaith enfawr y bydd cynigion eich Llywodraeth yn ei chael ar bob fferm yng Nghymru. Prif Weinidog, mae NFU Cymru yn llygad eu lle wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru yn profi diwydiant ffermio Cymru y tu hwnt i'w derfynau. A wnewch chi gadarnhau felly beth yn union yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau yng Nghymru, o gofio eich bod chi wedi addo cyflwyno'r rhain ddechrau'r flwyddyn hon? A wnewch chi gyhoeddi asesiad o effaith rheoleiddiol manwl nawr ar y cynigion hyn ac a wnewch chi ei gwneud yn berffaith eglur nawr pa gymorth yn union a fydd ar gael i'r ffermwyr hynny a fydd yn cael eu rhoi dan anfantais ariannol oherwydd cynigion eich Llywodraeth?
Wel, Llywydd, roeddem ni wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau ddechrau mis Ionawr, a'r union reswm pam yr ydym ni wedi gohirio hynny am nifer o wythnosau yw er mwyn gallu parhau'r sgwrs gyda ffermwyr sydd wedi dod drwy'r broses ymgynghori gyda syniadau newydd ynghylch sut y gellir cyflawni diben y rheoliadau yn ymarferol. Ond gadewch i mi fod yn gwbl eglur: ni wnaiff Llywodraeth Cymru gamu'n ôl o fynd i'r afael â llygredd mewn amaethyddiaeth yma yng Nghymru.
Mae achosion o lygredd yn rhy uchel—maen nhw wedi bod yn tyfu, maen nhw'n gwneud difrod. Maen nhw'n gwneud difrod i gyrsiau dŵr yma yng Nghymru, maen nhw'n gwneud niwed i'r amgylchedd ac maen nhw'n gwneud niwed i enw da y diwydiant ffermio, ar yr union adeg y mae angen i enw da cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru fod ar ei orau. Dyna pam, yn dilyn blynyddoedd o gynllun gwirfoddol y cytunwyd arno gyda'r NFU, nad yw'n cael ei anrhydeddu wedyn ar lawr gwlad, byddwn yn cymryd camau i reoleiddio, ond byddwn yn ei wneud ar y cyd â'n cymunedau ffermio, mewn trafodaethau gyda nhw. Dyna pam yr ydym ni wedi dal yn ôl rhag cyflwyno'r rheoliadau, gan y gallai fod ffyrdd y gallwn ni gyflawni'r nodau na fyddwn yn cilio rhagddynt mewn ffordd y byddai ffermwyr yn ei chael yn fwy ymarferol yn y ffordd y cânt eu cymhwyso. Ac yna byddwn yn darparu cymorth ariannol i'w cynorthwyo—nid i gyrraedd y safonau sydd yno eisoes mewn rheoliadau ac y dylai pob fferm yng Nghymru fod yn eu bodloni eisoes, ond i fodloni unrhyw faich rheoleiddiol ychwanegol a ddaw yn sgil y mesurau rheoli llygredd. Pum miliwn o bunnau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i helpu i fynd i'r afael â llygredd i ansawdd dŵr. Byddwn yn gweithio gyda'r gymuned ffermio. Dyma'r peth iawn i'w wneud. Rydym ni eisiau ei wneud ochr yn ochr â nhw, ond nid yw hynny'n golygu am eiliad y byddwn ni'n camu yn ôl o'r her y mae llygredd amaethyddol yn ei pheri i ni yma yng Nghymru.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Er gwaethaf pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd, fe wnaeth yr Ysgrifennydd cyfiawnder ar y pryd yn San Steffan, Chris Grayling, fwrw ymlaen â'r rhan o breifateiddio'r gwasanaeth prawf yn 2014. Flwyddyn yn ddiweddarach, llofruddiwyd Conner Marshall o'r Barri gan David Braddon, a oedd dan oruchwyliaeth cwmni adsefydlu cymunedol sy'n cael ei redeg yn breifat. Mae'n ymddangos mai hwn fu un o'r penderfyniadau polisi mwyaf trychinebus gan Lywodraeth San Steffan. Mae mam Conner, Nadine, a oedd yn y Senedd heddiw, wedi arwain ymgyrch ddiflino i gael cyfiawnder i Conner. Prif Weinidog, sut orau allwn ni ei gofio ef ac anrhydeddu ei gwaith hithau?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna a dechreuaf trwy gytuno ag ef bod dinistrio'r gwasanaeth prawf, y cyfeiriwyd ato'n aml fel prif drysor system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr, yn fefl ar hanes y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ac yn fefl a arweiniodd at ganlyniadau ymarferol mor ddinistriol yn yr achos y mae Adam Price wedi cyfeirio ato. Talaf deyrnged enfawr i'r ymgyrch a arweiniwyd gan fam Conner. Gwn pa effaith y mae hynny wedi ei chael ar y teulu ehangach ac ar ei dyfodol ei hun. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd iddi gyfarfod ddwywaith â'm rhagflaenydd fel Prif Weinidog i gyflwyno'n uniongyrchol iddo ef ei phrofiad hi a'i theulu ac i ofyn am ein cymorth i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau a wnaed, a ddilynwyd yn ddyfal gan fy rhagflaenydd.
Gofynnodd yr Aelod beth allem ni ei wneud i nodi ein gwahaniaeth yma yng Nghymru. Wel, rwyf i wedi dadlau ers tro y dylai'r gwasanaeth prawf gael ei ddatganoli yma yng Nghymru. Rhoddais dystiolaeth gyntaf ym 1995, ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, i gomisiwn a oedd yn paratoi deddfwriaeth ar gyfer datganoli a dadleuais y dylai'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid fod wedi bod ar y rhestr gynnar o wasanaethau i'w datganoli, oherwydd mae'r pethau y mae swyddog prawf yn dibynnu arnyn nhw i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol i gyd wedi eu datganoli eisoes. Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth iechyd meddwl, mae'n cael ei reoli yng Nghymru. Os ydych chi'n chwilio am gwrs i rywun fynd arno i wella ei ragolygon cyflogaeth, mae wedi ei ddatganoli i Gymru. Os ydych chi'n chwilio am rywle i rywun fyw, mae gwasanaethau tai wedi eu datganoli i Gymru. Mae'r cyfochri rhwng y gwasanaeth prawf a'r gwasanaethau sydd wedi eu datganoli eisoes mor gryf fel y dylid datganoli'r gwasanaeth prawf fel y byddai'r staff ymroddgar sy'n dal i weithio yn y gwasanaeth prawf, o dan amodau amhosibl o anodd yn aml, mewn sefyllfa well i wneud y gwaith y maen nhw eisiau ei wneud, a gallem ni gael gwasanaeth prawf o'r math yr hoffem ni ei weld yma yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog. Pan gafodd y system ei phreifateiddio, fel y gwyddom, dyfarnwyd y contractau gwerth ychydig llai na £4 biliwn i wyth sefydliad. Working Links oedd y cwmni a oedd yn goruchwylio David Braddon. Yn 2015, blwyddyn y llofruddiaeth, adroddodd The Financial Times bod staff yn ysgrifennu at y cwmni yn cwyno am lwythi gwaith gormodol. Yr wythnos diwethaf, daeth y crwner i'r casgliad bod rheolaeth a goruchwyliaeth y gweithiwr prawf a oedd newydd ei benodi a oedd yn gyfrifol am David Braddon yn druenus o annigonol. Fodd bynnag, nid yw'n eglur bod llawer wedi newid yn y cyfamser. Dywedodd adroddiad yr arolygiaeth prawf ym mis Gorffennaf y llynedd bod 60 y cant o swyddogion adrodd yn credu bod eu llwyth gwaith yn amhosibl i'w reoli. A gafodd y pryderon a godwyd gan weithwyr prawf eu dwyn i sylw bwrdd rheoli troseddwyr integredig Cymru neu fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru gyfan, y cynrychiolir Llywodraeth Cymru arno am y rhesymau y mae'r Prif Weinidog newydd eu hamlinellu, ac, yn benodol, a oedd y byrddau yn ymwybodol o unrhyw gynnydd mewn risg, o bosibl, i'r cyhoedd yn ne Cymru ar adeg llofruddiaeth Conner Marshall o ganlyniad i'r diffygion a nodwyd?
Llywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud yn gyffredinol yw bod ein pryderon am dynged y gwasanaeth prawf, am ei breifateiddio, am ei chwalu'n gydrannau, wedi cael eu codi yn rheolaidd iawn drwy'r peirianwaith sydd gennym ni yma yng Nghymru ac yn ein cyswllt gyda Llywodraeth y DU. Yn wir, rwy'n cofio'n dda iawn yr ymdrechion dyfal a wnaethom pan oedd Chris Grayling yn cychwyn ar y diwygiad hollol gyfeiliornus hwn, pryd y dadleuwyd gennym ni y dylid eithrio Cymru ohono, oherwydd os oedd marchnad yn unman—a byddwn wedi amau hynny'n fawr iawn—os oedd marchnad y gellid ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau, nid oedd marchnad yng Nghymru. Yn syml, nid oedd darparwyr ar gael yn aros i ymgymryd â'r gwaith hwn. Felly, dadleuwyd yn ddygn gennym ar y pryd y dylem ni gael ein heithrio o'r diwygiadau hyn, oherwydd nid oedden nhw byth yn mynd i weithio ar lawr gwlad yma, a chyflëwyd hynny gennym drwy'r holl wahanol fecanweithiau a oedd gennym ni.
Llywydd, gofynnodd Adam Price gwestiwn penodol iawn i mi ar y diwedd ynghylch trafodaethau'r byrddau ar eitem benodol. Nid yw'r wybodaeth honno gen i yn syth i law, ond rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n dod o hyd iddi ac yn ei hysbysu am y canlyniad.FootnoteLink
Prif Weinidog, rydych chi'n dadlau'r achos yn huawdl iawn, yn sicr, y dylai'r gwasanaeth prawf fod wedi cael ei ddatganoli ymhell yn ôl, ac mae'n sicr yn wir, rwy'n credu, pe byddai'r system gyfiawnder wedi cael ei datganoli yna ni fyddem wedi dilyn y newidiadau trychinebus a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i chi ofyn: a yw hi'n bosibl na fyddai bywyd diniwed wedi cael ei golli? Yn amlwg, mae comisiwn Thomas wedi cyhoeddi ei adroddiad, gan ddadlau'r achos yn fras dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Dylid nodi yn y cyd-destun hwn mai enw iawn y cwmni adsefydlu cymunedol newydd a gymerodd drosodd gan Working Links, mewn gwirionedd, a bron yn anesboniadwy, yw is-adran Cymru Caint, Surrey a Sussex, sydd mewn rhai ffyrdd yn dweud y cyfan, onid yw, am y cyfyng-gyngor yr ydym ni ynddo? A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion comisiwn Thomas, ac a fydd yr ymateb hwnnw'n un cadarnhaol o ran ei gynnig craidd, sef datganoli cyfiawnder a phlismona a'r gwasanaeth prawf? Ac onid dyna fyddai'r ffordd orau o barchu coffadwriaeth Conner?
Llywydd, byddwn yn sicr yn ymateb yn gadarnhaol i gomisiwn Thomas. Un o'r argymhellion oedd mwy o gydgysylltiad o'r gwaith y mae'n ymddangos sy'n cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru yn y maes hwn nad yw eisoes wedi ei ddatganoli—un o'r pethau trawiadol a ddywedodd yr Arglwydd Thomas iddo ei ganfod nad oedd wedi ei ragweld o anghenraid.
Ddoe, cawsom gyfarfod cyntaf is-bwyllgor y Cabinet y byddaf i yn ei gadeirio i oruchwylio'r broses o weithredu argymhellion comisiwn Thomas a gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ym maes cyfiawnder. Bydd dadl ar lawr y Cynulliad yn y fan yma yn amser y Llywodraeth yn fuan iawn, pryd y byddwn yn adrodd ar y camau yr ydym ni wedi eu cymryd yn syth ar ôl cyhoeddi'r adroddiad. Rwy'n deall bod cynhadledd wedi'i chynllunio ar gyfer mis Ebrill eleni dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a fydd yn gyfle arall i ddod â'r buddiannau hynny at ei gilydd, oherwydd, Llywydd, ni ddylem anghofio bod llawer o'r argymhellion gan gomisiwn Thomas wedi eu bwriadu ar gyfer y proffesiwn yma yng Nghymru—pethau y mae angen i'r proffesiwn ei hun eu gwneud i gryfhau ei allu i ddarparu gwasanaeth o'r math y mae comisiwn Thomas yn ei ragweld. Bydd y gynhadledd honno ym mis Ebrill yn gyfle cynnar i ni adrodd ar gynnydd, a gwneud hynny gyda'r buddiannau eraill hynny sy'n angenrheidiol os ydym ni'n mynd i sicrhau llwyddiant yr argymhellion yng Nghymru.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, un o elfennau allweddol bargeinion dinesig, o leiaf fel y mae Llywodraeth y DU wedi eu hyrwyddo dros yr wyth mlynedd diwethaf, yw integreiddio trafnidiaeth ar sail ranbarthol. A yw cyhoeddiad cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf yn golygu bod gwahanol ddull yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru? Nid yn unig y mae'n ymddangos bod un ardal cyngor, Caerdydd yn cael cyfran anghymesur o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd, dywedir wrthym nawr bod cyngor Caerdydd eisiau gwneud i eraill dalu amdano trwy godi £2 bob tro ar bobl nad ydynt yn drigolion Caerdydd i ddod â'u ceir i ganol dinas Caerdydd, gan eithrio holl drigolion Caerdydd ei hun. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi trethu Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r cymoedd i dalu am Gaerdydd?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn drysu nifer o wahanol elfennau wrth geisio clymu'r fargen ddinesig a'i mecanweithiau a'i chyllid gyda'r cynigion ymgynghori y mae cyngor Caerdydd wedi eu llunio. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod, rhag ofn nad yw wedi cael cyfle i'w weld eto, at lythyr a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar ran Llywodraeth Cymru at arweinydd cyngor Caerdydd. Mae'r llythyr yn gyhoeddus, a dyfynnaf o'r paragraff perthnasol: mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn fanwl y bwriad i gyflwyno unrhyw fecanwaith rheoli galw newydd gan y cyngor a'i effaith ar y rhanbarth ehangach o amgylch Caerdydd, sy'n cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. I'r perwyl hwn, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu astudiaeth fanwl bellach o ddulliau rheoli galw, eu manteision a'u heriau, i hysbysu safbwynt cenedlaethol ar y mater hwn, a all helpu i gyfrannu at safbwyntiau rhanbarthol yn ei gylch.
Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn edrych ar hyn yn fanwl ac yn ymateb i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, onid yw hyn yn mynd i werthoedd? £583 yr wythnos yw'r cyflog cyfartalog yng Nghaerdydd. £458 yr wythnos ydyw ym Mlaenau Gwent. Pam ddylai pobl sy'n ennill £125 yn llai yr wythnos dalu treth newydd tra bod pobl sy'n ennill £125 yn fwy yr wythnos yn cael eu heithrio? Beth mae hynny'n ei ddweud am werthoedd y Prif Weinidog, ei blaid a'i Lywodraeth? Er efallai y bydd yn ymateb yn gyffredinol maes o law, pam na all ef ddweud nawr nad yw'n iawn i gyngor Caerdydd geisio gwneud i bawb arall dalu ffi atal tagfeydd gan eithrio ei drigolion ei hun? Darganfuwyd gennym yn y gyllideb ddrafft y bydd bysus trydan newydd crand ddwywaith y pris arferol i Gaerdydd, ac eto mae gwasanaethau bws yng Nglynebwy wedi cael haneru o ran amlder wrth i Lywodraeth Cymru wneud toriadau mewn termau real i gymorthdaliadau bysiau. [Torri ar draws.] Ac mae'r Gweinidog iau yn heclo. Ei gyllideb ef—toriadau mewn termau real i gymorthdaliadau bysiau. Dyna werthoedd y Llywodraeth Cymru hon. Dywedodd pennaeth Trysorlys Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf mai'r rheswm am hyn oedd y gallai Llywodraeth Cymru roi cymorth cyfalaf, ond nid mwy o refeniw. Prif Weinidog, a yw hyn yn wir mewn gwirionedd? Oni fyddai bysiau newydd yn lleihau costau gweithredu ac yn denu mwy o deithwyr, gan leihau drwy hynny yr angen am gymhorthdal refeniw? Ac os gall Llywodraeth y DU anwybyddu rheolau'r Trysorlys er mwyn cael buddsoddiad o Lundain a gogledd Lloegr, pam mae Trysorlys Cymru yn mynnu cael dull sy'n gwrthod buddsoddiad i'r cymoedd er mwyn ei ganolbwyntio yng Nghaerdydd?
Wel, Llywydd, dyma'r cawdel arferol o syniadau a gynigir i ni gan yr Aelod. Mae bysus trydan newydd crand yn cael eu darparu yng Nghasnewydd a Chaerffili hefyd. Onid yw ef eisiau eu gweld nhw yno ychwaith? Onid yw ef eisiau gweld y £29 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf i gefnogi cerbydau trydan yma yng Nghymru? Wrth gwrs bod angen i ni weld mathau newydd o gludiant cyhoeddus, gan fod yn rhaid i ni berswadio pobl i ddod oddi wrth y car a defnyddio gwahanol fathau o gludiant. Caerdydd yw'r ddinas y cymudir iddi fwyaf yn y Deyrnas Unedig gyfan—mae 70,000 o gerbydau yn teithio i mewn i Gaerdydd bob dydd. Os ydym ni o ddifrif ynghylch ansawdd aer, os ydym ni o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd, yna ni allwn ni edrych i'r cyfeiriad arall a dweud, 'Peidiwch â phoeni; gadewch iddo gario 'mlaen.' Nawr, mae tegwch yn ganolog i'r ffordd y mae'n rhaid datrys y broblem honno, ac mae hynny'n gwbl ganolog i'r llythyr y mae Ken Skates wedi ei roi i arweinydd cyngor Caerdydd. Ond nid yw wfftio'r holl ffyrdd y gallwn ni wneud gwahaniaeth yn y dyfodol fel pe na bydden nhw'n berthnasol o gwbl i bobl sydd yn byw naill ai yn y brifddinas neu yn yr ardaloedd o'i hamgylch yn ddim ffordd o gwbl i fynd i'r afael â'r hyn sy'n her polisi cyhoeddus sylfaenol ddifrifol yma yng Nghymru, yn ein prifddinas ac ymhell y tu hwnt.