Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:42, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ni ellir dechrau dychmygu galar rhieni sy'n colli plentyn. Fel yr adroddwyd gan BBC Wales Investigates neithiwr, canfu cwest bod y gofal iechyd a roddwyd i Sarah Handy wedi cyfrannu at farwolaeth ei babi yn 2017. Mae ei hachos hi yn un o 140 sy'n cael eu hadolygu i ganfod pa un a gafodd mamau a babanod eu niweidio tra eu bod yn derbyn gofal yn unedau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg. Galwodd Rebecca Long-Bailey, ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur, am ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau mamolaeth yn y bwrdd iechyd, dim ond i dynnu ei sylwadau'n ôl yn ddiweddarach. Mae arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dweud ei bod yn 'sgandal llwyr' nad oes unrhyw un ar y bwrdd iechyd wedi ei ddwyn i gyfrif. Mae'n cefnogi galwad Mrs Handy am ymchwiliad troseddol. A ydych chi?