Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 28 Ionawr 2020.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price ar y dechrau, sef na ellir dychmygu colli plentyn o dan unrhyw amgylchiadau, a hyd yn oed yn fwy felly o dan amgylchiadau y gellid bod wedi eu hosgoi, o ran yr effaith y mae hynny'n ei chael ar fywydau teuluoedd.
Rwyf i wedi clywed galwadau am ymchwiliad troseddol. Mater i'r heddlu yn llwyr fydd hynny, nid mater i mi, ac ni fyddaf yn dweud dim ar y pwnc hwnnw y prynhawn yma y gellid ei ddehongli mewn unrhyw ffordd fel un sy'n niweidio gallu'r heddlu i gyflawni eu cyfrifoldebau.