1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Ionawr 2020.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr yn Islwyn? OAQ55020
Diolchaf i'r Aelod am hynna.
Lansiwyd y cynllun gweithredu ar dwristiaeth ar gyfer 2020-25 yr wythnos diwethaf. Bydd ei uchelgais i ymestyn y sector twristiaeth a chyrhaeddiad daearyddol y diwydiant yn rhoi hwb newydd i'r llu o atyniadau sydd gan Islwyn i'w cynnig.
Prif Weinidog, diolch. Yr wythnos diwethaf, datgelwyd dyfodol cyffrous i'r economi ymwelwyr yng Nghymru gennych chi a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas. Cefnogir y cynllun pum mlynedd newydd, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-25', gan gronfa newydd o £10 miliwn, y pethau pwysig, i gefnogi'r seilwaith twristiaeth hollbwysig a fydd yn ategu cronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn, gan ganolbwyntio ar gynhyrchion o ansawdd uchel sy'n gwella enw da.
Prif Weinidog, mae'r economi ymwelwyr, fel y gwyddoch, yn hanfodol i lesiant a dyfodol cymunedau yn fy etholaeth i yn Islwyn ac, oherwydd hynny, cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r Dirprwy Weinidogion, Lee Waters a Hannah Blythyn, pryd y trafodasom, ymhlith pethau eraill, lle diwylliant ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i daith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn yn Islwyn, a ddynodwyd yn borth darganfod yn rhan o borth darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi ei geiriau gyda gweithredoedd, ac ym mis Tachwedd, addawyd £450,000 i sicrhau y bydd taith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn yn ailagor yn llwyr yn 2020, gan ganiatáu mynediad i bob cenhedlaeth gael profiad o un o ryfeddodau naturiol Cymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi a'r Dirprwy Weinidog, Lee Waters, dderbyn fy ngwahoddiad i ymuno â phobl Islwyn yn nhaith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn, a hefyd, a wnewch chi a Llywodraeth Cymru wneud popeth y gallwch ei wneud i sicrhau bod Cymru a'r byd yn gwybod bod taith yrru coedwig Cwmcarn ar agor yn llawn unwaith eto ar gyfer busnes?
Wel, Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn treiddgar yna ar ran ei hetholwyr yn Islwyn. Mwynheais yn fawr y cyfle i fod gyda Dafydd Elis-Thomas yn lansiad y cynllun gweithredu ar dwristiaeth ym Mhorthcawl yr wythnos diwethaf. Mae'n cyflwyno ein huchelgeisiau ar gyfer y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Mae'r Aelod yn gwbl gywir i dynnu sylw at daith yrru golygfeydd coedwig Cwmcarn fel enghraifft o'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud mewn cyrchfannau twristiaeth ym mhob rhan o Gymru.
Pan oedd fy mhlant i yn tyfu i fyny, Llywydd, roeddem ni'n ymwelwyr rheolaidd iawn â Chwmcarn oherwydd y ffordd y mae'n cynnig cymaint o amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc fwynhau'r golygfeydd bendigedig sydd yno ond hefyd yr holl gyfleoedd eraill hynny y mae'r daith yrru olygfaol yn eu cynnig. Mae'r holl lwybrau beicio mynydd yng Nghwmcarn wedi eu hailagor erbyn hyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer pob un o'r wyth ardal hamdden ar hyd y daith yrru. Pan fydd y rheini wedi'u sefydlu hefyd, ochr yn ochr â'r ganolfan ymwelwyr newydd, bydd hyd yn oed mwy o resymau i bobl ddod i Islwyn a mwynhau'r hyn sydd gan Cwmcarn i'w gynnig.