Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 28 Ionawr 2020.
Gallaf sicrhau fy nghyd-Aelodau fy mod bob amser yn tynnu sylw'r Gweinidogion at unrhyw gyfraniadau y mae'r Aelodau yn eu gwneud o ran eu portffolios yn ystod y datganiad busnes, a byddaf i'n sicr o wneud hynny ynghylch eich pryderon penodol am wasanaethau afiechyd meddwl a gwasanaethau fasgwlaidd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ac yn amlwg, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad llafar, felly bydd cyfle i gwestiynu'r materion hynny yn ddyfnach yn ystod y datganiad hwnnw.