Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r canllawiau diwygiedig i Gwricwlwm Cymru. Mae'r rhain yn nodi: canllawiau i bob ysgol ar gyfer datblygu eu cwricwlwm nhw; disgwyliadau ynghylch trefniadau asesu i gefnogi hynt y dysgwyr; a'r gofynion deddfwriaethol arfaethedig i sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer dysgwyr ledled y wlad.
Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol ni. Nid oes dim mor hanfodol â bod y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gael yn gyffredinol ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar. Mae ein canllawiau newydd ni'n ddatganiad clir o'r hyn sy'n bwysig o ran darparu cwricwlwm ac addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw'r weledigaeth a'r dyheadau a rennir ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc. Ac, wrth gyflawni'r rhain, rydym ni'n disgwyl llawer oddi wrth bawb, yn hyrwyddo llesiant unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltiad sy'n feirniadol ac yn ymwybodol o ddinasyddiaeth.
Mae ein canllawiau ni'n gynnyrch proses faith o gydlunio, sy'n cynnwys ymarferwyr o ysgolion ledled Cymru. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r ymarferwyr hynny am eu hymroddiad dros y tair blynedd diwethaf wrth ddrafftio'r canllawiau hyn ar y cyd. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r unigolion a'r sefydliadau a fu'n ymwneud â'r cyfnod adborth y llynedd, ar ôl i'r canllawiau drafft gael eu cyhoeddi. Mae ansawdd a manylder y cyfraniadau hyn wedi helpu i wneud gwelliannau sylweddol. Yn yr hydref, fe gyhoeddais i ddadansoddiad o'r adborth hwn; heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb i'r adborth hwnnw hefyd, ynghyd â'r canllawiau.
Yn ystod yr hydref, mae ymarferwyr a swyddogion wedi gweithio i ddiwygio'r canllawiau gan ymateb i'r adborth hwnnw, ac yn benodol i: symleiddio a lleihau maint y canllawiau; egluro pa rannau o'r fframwaith cwricwlwm newydd fydd yn orfodol i sicrhau tegwch yn yr holl ysgolion; a rhoi mwy o eglurder a manylder lle mae angen mwy o gymorth ar ymarferwyr, gan roi arweiniad iddyn nhw ar gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae'r adborth hwn, ynghyd â'r broses o gydlunio wedi bod yn allweddol: arweiniad a gynhyrchwyd gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, drwy ddeialog barhaus â'n system addysg ni yn ei chyfanrwydd.
Mae gweld pob ymarferwr yn ddyluniwr cwricwlwm yn golygu newid sylfaenol i addysg yng Nghymru. Nid yw'r canllawiau newydd yn pennu rhaglen ragnodol y gellir ei chyflwyno'n syml. Yn hytrach, maen nhw'n ymwneud â grymuso ymarferwyr i benderfynu beth fydd yn helpu eu dysgwyr nhw i fod yn uchelgeisiol ac yn fedrus, yn foesol a gwybodus, yn fentrus ac yn greadigol, ac yn iach ac yn hyderus.
Mae'r canllawiau newydd yn canolbwyntio ar ddull mwy integredig o ddysgu. Mae'r chwe maes dysgu a phrofiad yn tynnu disgyblaethau cyfarwydd ynghyd ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon rhyngddynt. Er bod y disgyblaethau yn parhau i fod yn bwysig, mae'r dull newydd hwn yn helpu dysgwyr i feithrin cysylltiadau gydol eu haddysg, gan eu helpu nhw i ddeall nid yn unig yr hyn y maen nhw'n ei ddysgu, ond pam mae hynny'n cael ei ddysgu iddyn nhw.
Mae ein canllawiau newydd yn rhoi lle canolog i hynt dysgwyr hefyd, ac mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol yn y broses o gefnogi hyn. Mae'r canllawiau wedi cael eu seilio'n llwyr ar dystiolaeth ryngwladol ar gyfer hynt yr addysg. Bydd hyn yn galluogi pob dysgwr i ddod yn ei flaen drwy gydol ei addysg, ym mhob maes a disgyblaeth, yn hytrach na dim ond dysgu torreth o ffeithiau. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys canllawiau penodol hefyd ar ddatblygu trefniadau asesu i gefnogi hynt dysgwyr a galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd drwy sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio.
Y tu hwnt i'r pwyslais ar gydlunio, mae'r newidiadau hyn yn wahanol i lawer o'r mathau tebyg o ddiwygiadau a welwn ni mewn tair ffordd allweddol. Mae'r canlyniadau dysgu yn ein canllawiau ni'n seiliedig ar dystiolaeth a methodoleg gadarn i gynnal dysgu dros gyfnodau o dair blynedd. Mae canlyniadau mewn mannau eraill yn gul neu'n amwys iawn yn aml, gan roi cyfarwyddyd annigonol i ymarferwyr. Mae ein harweiniad ni'n canolbwyntio ar ysgolion yn cynllunio eu cwricwlwm nhw eu hunain. Mae diwygiadau mewn mannau eraill yn aml yn ystyried hyn yn gyfan gwbl ymhlyg. Fe fydd yr adran 'Cynllunio eich Cwricwlwm' yn helpu ymarferwyr i ddatblygu cwricwlwm o ansawdd uchel.
Ac rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ysgolion yn cael y gefnogaeth lawn i wireddu'r cwricwlwm yn eu hysgol nhw o fewn y fframwaith a roddwn ni. Mae tystiolaeth ryngwladol yn ei gwneud hi'n glir mai'r cam nesaf hwn—gweithredu ar ein diwygiadau ni—yw'r her fwyaf un. Wedi'r Pasg, byddaf yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu cwricwlwm ni sy'n seiliedig ar y mannau y dylai ysgolion ganolbwyntio eu hymdrechion arnyn nhw ar wahanol bwyntiau hyd at 2022, a sut y byddwn ni a'r haen ganol yn eu cefnogi nhw yn y broses honno.
Roedd y cam adborth yn ei gwneud yn glir y bydd angen canllawiau penodol, ychwanegol i gefnogi ymarferwyr mewn meysydd arbennig. I'r perwyl hwn, Dirprwy Lywydd, yn ystod y 18 mis nesaf fe fyddaf i'n cyhoeddi fframwaith hefyd ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i lywio datblygiad y meysydd llafur a gytunwyd ym mhob awdurdod lleol; canllawiau ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb; canllawiau ar yrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith; galluogi camau i gefnogi dysgwyr ar ddechrau'r continwwm dysgu; cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir i'w fabwysiadu; ac arweiniad ar ddatblygu cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ac ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heb fod mewn ysgol.
Mae'n hanfodol nawr bod y Llywodraeth, consortia rhanbarthol, Estyn ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo pob ysgol, lleoliad ac ymarferwr i ddeall y cwricwlwm newydd a'i gyflawni. Yn ogystal â'r ymrwymiadau a wnes i ynglŷn â dysgu proffesiynol, mae swyddogion yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac Estyn i sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol o ymarferwyr ac arbenigwyr i rannu arbenigedd ac addysg, a nodi blaenoriaethau ar gyfer cefnogi'r proffesiwn i fod yn barod. Mae swyddogion yn gweithio gydag ymarferwyr i nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu adnoddau, i sicrhau bod ystod o ddeunyddiau ategol ar gael erbyn 2022 i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Mae swyddogion yn gweithio'n agos hefyd gyda Cymwysterau Cymru wrth iddo ystyried sut y gallai fod angen i gymwysterau newid ar gyfer cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd a rhoi cefnogaeth iddo. Mae hwn yn gyfle newydd i ystyried natur a swyddogaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.
Gadewch imi fod yn glir: dim ond y cam nesaf o gydlunio yw cyhoeddi'r canllawiau hyn ar gyfer y cwricwlwm. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r proffesiwn i sicrhau y bydd hyn yn llwyddiant. Ond mae'n bryd nawr i bob ymarferwr ymgysylltu yn llawn â'r hyn a gyhoeddwyd. Fe ddylai'r ysgolion gymryd y gofod a'r amser i ddeall model y cwricwlwm a dechrau trafod sut y bydd eu gweledigaeth a'u gwerthoedd nhw'n llywio eu cwricwlwm eu hunain yn y pen draw. Ni ddylent ruthro i geisio ei gynllunio neu ei weithredu ar unwaith.
Mae'r cwricwlwm newydd hwn yn cynrychioli ymdrechion gorau'r proffesiwn addysg. Y cam nesaf yn ein taith ddiwygio yw paratoi'r proffesiwn i'w wireddu ym mhob ystafell ddosbarth ac ar gyfer pob dysgwr yn ein cenedl ni.