Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 28 Ionawr 2020.
Hoffwn i y prynhawn yma fynd ar ôl dau fater penodol—fydd y materion yma ddim yn newydd i chi; dwi wedi eu codi nhw o'r blaen—yn gyntaf, gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae'ch datganiad chi heddiw yn cydnabod, wrth gwrs, mai gweithredu'r diwygiadau ydy'r her fawr, a bod yna dystiolaeth ryngwladol yn dangos bod hynny wedi bod yn glir mewn sefyllfaoedd eraill. A'r ail bwynt dwi am ei wyntyllu ychydig bach ymhellach ydy sut ydych chi'n cysoni gwneud rhai materion yn statudol, tra'n neilltuo rhai eraill o'r ddeddfwriaeth?
Does yna ddim dwywaith bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn mynd i fod yn newid anferth i'r byd addysg yng Nghymru, a meddech chi heddiw y dylai ysgolion gymryd amser i ddeall model y cwricwlwm. Ac felly hoffwn i ofyn i chi'n gyntaf: ydych chi'n cytuno y bydd hyn, y bydd deall model y cwricwlwm newydd, yn fwy o her i'r sector uwchradd nag i'r sector cynradd? Ydy'r sector cynradd, yn enwedig o gofio datblygiad y cyfnod sylfaen, yn fwy parod, efallai, ar gyfer y weledigaeth newydd yma ar gyfer deall model y cwricwlwm?
Rydych chi'n sôn am yr angen i ysgolion gyd-gynllunio. I gyd-gynllunio, mae angen i ysgolion gael y gofod i ddod at ei gilydd. Ac eto, meddech chi yn eich datganiad heddiw, mae angen i ysgolion greu gofod ac amser i ddeall model y cwricwlwm, a pheidio â rhuthro'r broses o weithredu'r cwricwlwm newydd. Dwi'n cytuno yn llwyr efo hynny, ond mae creu'r gofod yn costio. Mae angen cyflogi athrawon llanw ac yn y blaen. Sut ydych chi'n gweld hwnna'n gweithio yn ymarferol? Ac ydych chi eto yn credu y bydd hi'n haws i greu'r gofod yma ar gyfer y cyd-gynllunio yn y cynradd, lle mae yna lai o blant, i ddechrau, mewn ysgolion cynradd o gymharu efo'r uwchradd? Ac i fynd yn ôl at y dystiolaeth ryngwladol roeddwn i'n cyfeirio ati ar y cychwyn, pa wersi sydd yna i'w dysgu o'r dystiolaeth yma wrth feddwl am wreiddio a gweithredu'r cwricwlwm yn y sector uwchradd yn benodol?
Wrth gwrs, mi fyddwch chi'n ateb ac mi fyddwch chi'n sôn am y dyddiau hyfforddiant mewn swydd a bod hynny yn mynd i helpu i ganiatáu i ysgolion gael y gofod yma, ond dim ond i raddau mae hynny yn mynd i helpu. A byddwch chi'n sôn am y £39 miliwn ychwanegol hefyd sy'n cael ei glustnodi tuag at hyfforddiant mewn swydd, ond a ydy hynny yn ddigon? Hyn ydy fy mhryder i. Dwi'n credu, os ydy hwn yn mynd i lwyddo, ac rydyn ni i gyd eisiau ei weld o'n llwyddo, mae angen chwistrelliad sylweddol o arian i gefnogi gweithrediad y cwricwlwm. Mae'r ysgolion ar eu cluniau'n barod ac mae yna beryg i gyflwyno newid mor anferth ar gyfnod o gynni ariannol—mae yna beryg iddo fo fethu yn llwyr.
Ac felly, mi fyddwn yn gofyn i chi, ac i'r Llywodraeth yn fwy nag i chi fel y Gweinidog Addysg—dwi'n gwybod eich bod chi'n dadlau dros fwy o arian i addysg, ond mae hwn yn gwestiwn i'r Llywodraeth mewn gwirionedd. Onid oes angen i'r Llywodraeth gael bach o reality check yn fan hyn a sylweddoli bod angen cannoedd o filoedd yn fwy o bres er mwyn creu llwyddiant o'r cwricwlwm newydd—ddim y symiau cymharol fechan sydd dan sylw ar hyn o bryd? Mae eisiau chwistrelliad sylweddol i greu'r llwyddiant rydyn ni ei angen.
A jest i drafod yr ail bwynt yma—rydyn wedi ei drafod o o'r blaen, ond dwi'n dal i geisio deall sut ydych chi'n cysoni gwneud rhai materion yn rhan statudol o'r cwricwlwm, ond wedyn yn neilltuo rhannau eraill o'r ddeddfwriaeth. Dwi'n credu eich bod chi'n hollol iawn i gynnwys addysg rhyw, addysg perthnasoedd iach ac addysg crefydd, neu beth bynnag ydy'r enw newydd ar hwnnw rŵan. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod y rheini yn rhan statudol o brofiad pob person. Ond wedyn sut mae cysoni cynnwys y rheini, ond wedyn ddim cynnwys dwy awr o addysg gorfforol, materion yn ymwneud efo addysg lles meddyliol, hanes Cymru a Chymreictod? Dyw'r rheini ddim yn mynd i orfod bod yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm. Lle mae'r cysondeb mewn gwneud un elfen yn hanfodol, ac elfennau eraill ddim?
Rŵan, rydyn wedi cael y sgwrs yma sawl tro o'r blaen, a dwi'n gwybod y cawn ni'r ateb rydych yn ei roi fel arfer. Ond tybed—. Rydyn yn cytuno bod y materion yma'n bwysig. Dwi'n gwybod eich bod chi'n credu bod Cymreictod a hanes Cymru neu hanesion Cymru yn bwysig. Oes yna ffordd arall, felly? Yn hytrach na'u bod nhw yn y cwricwlwm, oes yna ffordd arall o sicrhau eu bod nhw yn cael eu dysgu ymhob ysgol heb rym Deddf tu ôl i hynny? Dyna ydy'r cwestiwn allweddol, mae'n debyg, gan ein bod ni'n cytuno bod angen i'r rhain gael eu dysgu. Sut ydyn ni yn mynd i wneud hynny os nad ydyn ni'n eu cynnwys nhw yn y ddeddfwriaeth?