Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 28 Ionawr 2020.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Suzy Davies am y pwyntiau a godwyd ganddi a'r cwestiwn a ofynnodd hi? Yn gyntaf, fe soniodd am weithredu. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun gweithredu yn ddiweddarach y tymor hwn. Rwy'n awyddus i ymarferwyr a phartïon â diddordeb allu treulio'r wythnos neu ddwy nesaf yn darllen dogfen helaeth iawn, gan ddechrau rhoi meddwl ar waith cyn bod rhaid iddyn nhw, yn sydyn iawn, gael cynllun gweithredu hefyd gan y Llywodraeth. Rwy'n dymuno eu gweld yn ymgysylltu â'r ddogfen hon, ac ystyried yr hyn a ysgrifenwyd ynddi, a dechrau rhoi'r meddwl ar waith. Ond mae'n amlwg y bydd angen wedyn inni nodi cyfres o bwyntiau a darnau o waith y bydd angen i ysgolion unigol eu cyflawni rhwng nawr a mis Medi 2022, i sicrhau bod pawb yn y lle iawn, ac yn symud ymlaen o ran eu parodrwydd.
Yr hyn y soniais i amdano o ran canllawiau ychwanegol, cafwyd galwad clir gan bobl am ryw gymaint o gymorth ychwanegol yn y maes hwn. Er y byddwch wedi gweld o'r hyn a gyhoeddwyd gennym heddiw, rydym wedi bod yn fanwl iawn ym mhob maes dysgu a phrofiad, gyda phob datganiad o'r 'hyn sy'n bwysig' oddi tano, a'r camau o ran cynnydd. Yr hyn y byddwn ni'n ei ddarparu o ran canllawiau fydd gwybodaeth ychwanegol dros ben hynny, yn ogystal â'r hyn sydd eisoes yn arweiniad cynhwysfawr iawn ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y meysydd hynny. Ond, yn amlwg, wrth feddwl am bynciau y mae pobl, yn ddealladwy iawn, yn teimlo'n gryf iawn yn eu cylch, ynglŷn â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, ac addysg cydberthynas, oherwydd eu pryderon am yr hyn y gallai hynny ei gynnwys, rydym eisiau bod yn eglur iawn ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu, ac efallai yn bwysicach, yr hyn nad ydyw'n ei olygu. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wedi bod braidd yn bryderus ynglŷn â rhywfaint o'r ohebiaeth a ddaeth i law dros yr wythnos ddiwethaf, lle mae yna gamddealltwriaeth fawr ynglŷn â'r hyn a ddysgir mewn ysgolion ar hyn o bryd, a'r hyn yr ydym ni'n disgwyl y bydd ysgolion yn ei ddysgu yn y dyfodol. Felly, i dawelu meddyliau rhieni a chymunedau ynghylch yr hyn y disgwyliwn i athrawon eu plant ei ddysgu iddyn nhw, rydym ni'n dymuno bod yn fwy penodol er mwyn rhoi'r hyder hwnnw ynghylch materion sydd, yn ddealladwy, yn sensitif, ac mae pobl yn awyddus i gael sicrwydd.
I'r perwyl hwnnw, fe fydd y grŵp dan sylw yn eistedd ochr yn ochr â'n grŵp ni o lunwyr a fydd yn edrych ar y canllawiau hynny, yn enwedig o ran addysg am gydberthynas. Ond fe fyddwch chi wedi gweld yn y ddogfen a gyflwynais i heddiw ein bod ni wedi bod yn eglur iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei ragweld fydd yr egwyddorion a fydd yn sail i'r canllawiau ynghylch addysg cydberthynas. Maen nhw'n seiliedig ar egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar yr hyn sy'n gymwys fel arfer gorau wrth ddysgu'r pynciau hyn i blant a phobl ifanc.
Gwn fod yr Aelod yn rhannu fy mhryder, wrth ystyried y meysydd hyn, fod gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod ein plant ni'n ddiogel. Mae ein plant ni'n aeddfedu mewn byd sy'n eithriadol wahanol, Dirprwy Lywydd, o ran y mynediad i wybodaeth am berthnasoedd a rhywioldeb. Mae'r dyddiau wedi hen ddiflannu pan oeddem ni'n pasio copi o Judy Blume o amgylch y dosbarth er mwyn inni gael dysgu mwy am y mislif. A phan oeddem ni ychydig yn hŷn, fe ddiflanodd y dyddiau pan oedd gennym ni nofel gan Jackie Collins, yr oeddem ni'n ei phasio hi o gwmpas yr ystafell ddosbarth eto, a dyna sut y cawsom ni'r wybodaeth yna. Diniwed tu hwnt erbyn hyn, onid e? Ond mae ein plant ni yn llythrennol glic neu ddau yn unig oddi wrth luniau brawychus. Fe welsom ni rai lluniau anweddus o bobl ifanc yn ddiweddar gan arbenigwyr yn y maes—y gyfran o'r pethau sydd mewn gwirionedd yn cael eu rhoi yno gan y bobl ifanc eu hunain, heb fod yn ymwybodol o'r niwed a'r perygl y gallan nhw fod yn eu rhoi eu hunain ynddo. Rwyf i o'r farn fod gennym gyfrifoldeb i addysgu ein plant ni ar gyfer eu cadw nhw'n ddiogel, a'r egwyddorion a fydd yn sail i'n haddysg ni yn y maes hwn yw egwyddorion arfer gorau gan y Cenhedloedd Unedig.
O ran dysgu proffesiynol, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y mwyafrif helaeth o'r arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i benaethiaid ac arweinwyr ysgolion yn uniongyrchol, gan mai y nhw sy'n deall anghenion dysgu proffesiynol eu staff. Ac nid oes modd inni wybod am hynny i gyd yn ganolog. Rydym yn ymddiried yn arweinwyr yr ysgolion hynny i allu cynllunio rhaglen ddysgu broffesiynol sy'n diwallu anghenion eu staff arbennig nhw, ac y gall dysgu proffesiynol ddigwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Daeth galwad gan yr undebau i barhau â'r cyllid hwnnw. Oherwydd fe fyddwch chi'n ymwybodol fod yna gyllid yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; roedd gweithwyr proffesiynol yn pryderu y byddai'r cyllid hwnnw'n dod i ben, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud ymrwymiad i ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Bydd yn ofynnol i bob ysgol gyhoeddi ei chynllun dysgu proffesiynol, fel y gallwn ni weld— neu y gall unrhyw un sydd â diddordeb weld—sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu proffesiynol i'r staff yn y ffordd neilltuol honno.
Ymhellach—rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyfeirio at ymgynghori pellach. Dyma fersiwn derfynol y ddogfen hon—nid oes ymgynghoriad pellach i fod ar yr hyn sy'n cael ei gyhoeddi heddiw. Dyma hi, felly ni fyddwn yn mynd yn ôl allan i holi ynglŷn â hyn. O ran y ddeddfwriaeth—fe fydd y ddeddfwriaeth honno, a gaiff ei chyhoeddi ar ôl toriad y Pasg, yn ddarostyngol i'r broses graffu arferol yn y fan hon. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut y byddwn ni'n defnyddio deddfwriaeth—y Bil cwricwlwm ac asesu—o ran deddfu ar gyfer y pedwar diben, y meysydd dysgu a phrofiad, a'n bwriad i gael cod o ran datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig'. Fe fyddwch chi'n ymwybodol hefyd y bydd angen inni sicrhau wedyn bod y ddeddfwriaeth yn ystyried anghenion a disgwyliadau'r cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion hefyd, ac yn wir ar gyfer yr addysg a gaiff plant sydd heb fod mewn ysgol. Ac fe fydd y Bil cwricwlwm ac asesu yn nodi ein disgwyliadau ni'n eglur yn hynny o beth, gan gydnabod rhai elfennau craidd y bydd yn rhaid i bob darparwr eu cynhyrchu, ond gan gydnabod, mewn rhai achosion, er budd gorau'r plant, na chaniateir rhai agweddau ar y cwricwlwm, oherwydd bod hynny er budd mwyaf y dysgwr penodol hwnnw.
Fe ddechreuodd yr Aelod ei chyfraniad drwy siarad am blant yn sefyll 12 neu 13 o wahanol TGAU. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae Cymwysterau Cymru ynghanol rhan gyntaf ei ymgynghoriad ar ddyfodol cymwysterau. Ac rwy'n siŵr y bydd y cynnwys ond hefyd y dymuniad neu'r angen i sefyll 12 neu 13 TGAU yn rhan o gyfansoddiad yr archwiliad hwnnw, oherwydd mae hon yn her, yn sicr. Ond gwaith pellach i'w wneud eto yw hwnnw.