Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch. Rwy'n llwyr gefnogi eich agwedd chi tuag at addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan ei wneud yn beth gorfodol, oherwydd yng nghyd-destun yr ysgol uwchradd fwyaf breintiedig, leiaf difreintiedig yn fy etholaeth i, mae'r ffonau hyn yn broblem fawr. Mae'r heddlu yno bob yr wythnos yn ceisio egluro i bobl ifanc, os ydyn nhw'n rhannu ffotograffau sy'n peryglu eu henw da ar eu ffonau, yna fe ddaw hynny'n ôl i'w bwrw nhw, naill ai'n ariannol neu byddan nhw'n cael eu hecsbloetio yn rhywiol. Oni bai fod pawb yn deall hynny, mae gennym ni broblem enfawr.
Gwyddom hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol bod pobl ifanc yn cael canllawiau anfeirniadol ar ystyr cydberthnas iach, fel bod plentyn y gofynnir iddo wneud pethau amhriodol yn cael ei rymuso i wrthod a'i fod yn gwybod ble i fynd. Credaf ei fod yn rhagrithiol fod sefydliadau sydd wedi methu â diogelu plant a phobl ifanc yn ddigonol rhag oedolion anrheithgar ar flaen y gad wedyn yn dweud y dylid gadael hynny i'r rhieni. Yn yr un modd, mae'n annerbyniol nad oes gan blentyn naw mlwydd oed syniad pam ei bod yn gwaedu rhwng ei choesau gan nad oes neb wedi mynd i'r drafferth o ddweud wrthi am y mislif.
Yn yr un modd, rwy'n teimlo bod cymdeithas y dyneiddwyr yn anghywir i ddweud bod addysg grefyddol fel rhan greiddiol o'r cwricwlwm yn stwffio crefydd i lawr corn gyddfau'r plant. Oherwydd mae'n rhaid i ni ddadadeiladu gwerthoedd a moeseg crefyddol i wahanol feysydd dysgu ac addysgu fel bod pob plentyn yn gwybod am hanes crefydd, sydd wedi'r cyfan wedi bod yn achos mwy o ryfeloedd nag unrhyw beth arall bron, ac mae rhyfeloedd yn dal i gael eu hymladd yn enw crefydd. Felly, mae angen inni ddeall y cyfan o hynny. Ac mewn byd amlddiwylliannol, amlboblogaeth, amlethnig, nid ydym yn mynd i fynd ymhell iawn o ran dysgu pobl ifanc i barchu gwahaniaeth os na allwn sicrhau bod pobl ifanc yn deall bod gwahanol gredoau gan bobl, a sicrhau bod gennym ni werthoedd a moeseg craidd, gonestrwydd, trugaredd, caredigrwydd a chydymdeimlad.
Fe soniodd Suzy Davies am y gwersi a ddysgwyd o'r Holocost. Wel, roedd Dr Martin Stern, a siaradodd yn neuadd y ddinas ddoe, yn gwbl glir mai'r hyn sydd gennym ni i'w ddysgu o'r 50 hil-laddiad sydd wedi digwydd ers yr ail ryfel byd yw dealltwriaeth o'r ffaith y gall pobl gyffredin ddatblygu i fod yn fwystfilod. Soniodd am ei gyfaill o Bosnia a gafodd ei holi gan ei gyn athro gwyddoniaeth, a oedd wedi trawsnewid o fod yn addysgwr i fod yn llofrudd. Felly, y pethau hyn i gyd; mae'n hanfodol ein bod ni'n llunio'r cwricwlwm craidd i sicrhau bod gennym ni gymdeithas wâr y mae pawb yn ei deall.