Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 28 Ionawr 2020.
Er fy mod yn derbyn bod protocol yn mynnu fy mod yn holi'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw, teimlaf nad oes lle i feirniadu nac i ychwanegu o ran cynnwys a chyflawnder y datganiad. Teimlaf hefyd y byddai gwneud rhywfaint o enillion gwleidyddol o'r achlysur neu'r camau a amlinellwyd yn y datganiad yn gwbl amhriodol.
Hoffwn ddweud felly, ar ôl bod yn bresennol yn nigwyddiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis hwn, cefais fy nghyffwrdd yn llwyr ac yn gyfan gwbl gan ddewrder Mala Tribich wrth iddi roi ei thystiolaeth, yn enwedig pan ddisgrifiodd y foment pan aeth hi a'i chefnder ifanc i wersyll enwog Belsen. Roedd teimlo fy mod ym mhresenoldeb rhywun yr oedd ei llygaid wedi syllu ar erchyllterau'r gwersyll hwnnw wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol nag erioed o'r blaen o greulondeb llwyr y cyfnod hwnnw. Na foed inni byth ag anghofio bod y troseddau erchyll hyn wedi'u cyflawni gan genedl a oedd i fod yn genedl wâr. Mae'r digwyddiadau a ddigwyddodd yn Cambodia, Rwanda a Darfur, ac yn llawer agosach at adref yn Bosnia, yn enwedig yn Srebrenica, yn ein hatgoffa o bosibilrwydd cyson annynoldeb dyn tuag at ei gyd-ddyn.
Mae un sylw yn unig yr hoffwn ei wneud ynghylch yr adroddiad hwn, Dirprwy Weinidog, a hynny yw bod llawer wedi'u llofruddio gan y Natsïaid dim ond am eu bod yn anabl. Rwy'n gwybod fod Mark wedi crybwyll hyn hefyd. Dylid dweud yn y fan yma fod y rhan fwyaf o droseddau casineb wedi'u hanelu at y rhai sy'n anabl mewn rhyw ffordd. Os ydym ni am addysgu pobl am oddefgarwch at eu cyd-ddyn, dylai'r agwedd hon o gael eich erlid oherwydd eich bod yn wahanol hefyd gael ei phwysleisio mewn unrhyw brosiect sydd â'r nod o ddileu rhagfarn.