Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch, Delyth Jewell. Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd a sut y gall hynny ddylanwadu, gan fynd yn ôl at sylw Mark Isherwood, ar y cyfan o'n gwaith, ein holl waith o lunio a gweithredu polisïau. Ac yn arbennig, rwy'n credu, roedd hi'n dda y cawsom ni ddatganiad ar y cwricwlwm newydd y prynhawn yma, i weld bod cyfleoedd, oherwydd rwy'n gwybod y bydd yr holl ysgolion a fydd yn ymwneud â hyn, a'r rhan fwyaf o ysgolion—rwy'n credu mai ychydig iawn o ysgolion na fyddant bellach yn cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Cofio'r Holocost—wedi dysgu a mynd â hyn yn ei flaen, ac ni fydd yn nodwedd flynyddol yn unig, ond yn nodwedd o'r cwricwlwm, o'u byw a'u dysgu, i greu'r gymdeithas honno y gwyddom ei bod yn iawn ar gyfer eu cyfleoedd, eu gwerthoedd a'u moeseg.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gweld, o ran y cyfleoedd gyda'r fflamau y byddwch yn eu gweld o gwmpas y wlad, a gobeithio y byddwch yn eu gweld yn y Senedd heddiw, mewn gwirionedd, bod Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost hefyd yn cynnal cwrs Gwersi o Auschwitz, ac rydym ni'n galluogi ysgolion ac athrawon i elwa ar hwnnw. Ac un o'r ysgolion a wnaeth elwa ar ein cyllid eleni oedd ysgol uwchradd Woodlands yng Nghaerdydd, a oedd hefyd yn gallu cynhyrchu a chael ei chydnabod am rannu'r fflam.
Roedd yn ddiddorol neithiwr clywed gan Dr Martin Stern am gynnydd graddol y mudiad Natsïaidd a dylanwad Adolf Hitler yn yr Almaen—yr Almaen, ei wlad yr oedd yn ei charu ac y bu'n rhaid iddo ei gadael. Mewn gwirionedd goroesodd yr Holocost yn fachgen ifanc iawn, ac rydym i gyd wedi clywed am y straeon dros y deuddydd diwethaf, ond mae'n benderfynol y dylid rhannu ei stori gyda'r ieuengaf o blant yn ein cymdeithas.
Rwy'n credu, yn bwysig ddoe hefyd, dywedodd y Prif Weinidog:
Mae heddiw'n ddiwrnod poenus a diolch i Dr Stern am ddefnyddio ei stori deimladwy i'n hatgoffa ni i gyd am rym goddefgarwch ... Mae'n rhaid inni sefyll gyda'n gilydd. Mae'n rhaid inni ddathlu ein gwahaniaethau. Ac mae'n rhaid i ni gredu bod mwy sy'n ein huno nag sy'n ein gwahanu. Dyma'r unig ffordd i sicrhau bod y digwyddiadau truenus hyn yn aros yn union yn y lle y maen nhw'n perthyn—yn y llyfrau hanes.
Ysgrifennodd Julie Morgan - y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithaso, a minnau at yr Ysgrifennydd Cartref am bwysigrwydd sicrhau bod gennym ni gyfle i gefnogi ailuno ffoaduriaid sy'n blant gyda'u teuluoedd. Ac, mewn gwirionedd, fe wnes i gydnabod yr Arglwydd Alf Dubs, pan gawsom ein digwyddiad ar y pedwerydd ar ddeg, pan oeddem yn paentio negeseuon ar gerrig, a chredaf fod gan lawer o bobl neges i ddiolch iddo am yr hyn y mae wedi'i wneud i ffoaduriaid sy'n blant oherwydd bu yntau yn ffoadur ei hun yn blentyn. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni yn ysgrifennu i ganfod sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi ailuno ffoaduriaid sy'n blant gyda'u teuluoedd, sef yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud. Felly, byddwn yn mynd ar drywydd hynny yn dilyn ein datganiad yr wythnos diwethaf.
Yn olaf, mae'n rhaid imi ddweud bod hwn yn gyfle i ni yn y Cynulliad hwn i uno ym mhob rhan o'r Siambr, i sefyll, gan sicrhau ein bod yn ymateb i neges sefyll gyda'n gilydd mudiad cenedlaethol yr Holocost, a phwysigrwydd Diwrnod Cofio'r Holocost.