Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 28 Ionawr 2020.
Roedd y BBC ar ei orau neithiwr gyda dramateiddiad gwirioneddol rymus o stori The Windermere Children a gwaith Leonard Montefiore yn brwydro yn erbyn biwrocratiaeth i gael y plant hyn i ddod o wersylloedd crynhoi a gawsant eu rhyddhau ar ôl dioddef erchyllterau rhyfel. Tynnodd sylw pobl hefyd, os mynnwch chi, at y rhagfarn a fodolai o hyd yr adeg honno yn y wlad hon, ac sy'n dal i fodoli heddiw. Roedd yn ddramateiddiad diflewyn-ar-dafod o stori'r bobl ifanc hynny. Yna, aeth ymlaen, yn ddiweddarach, i gyfweld y plant hynny fel y maen nhw heddiw, yn eu 80au. Ac felly, roedd yn brofiad anhygoel i gael deall yn union yr hyn a ddioddefodd y rhain.
Felly, credaf fod yn rhaid inni gofio bod Llywodraeth y DU wedi gwrthwynebu'n chwyrn dod â phobl draw drwy gyfrwng y kindertransport cyn y rhyfel, ac felly bu farw llawer o'r plant hynny yn y gwersylloedd crynhoi, ond hefyd roeddent yn gwrthwynebu dod ag unrhyw un o'r plant hyn yma o gwbl. Dim ond oherwydd dyfalbarhad y gŵr hwn â'i weledigaeth y llwyddodd i negodi gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Groes Goch i'w perswadio i adael i'r bobl hyn ddod i Ardal y Llynnoedd i brofi rhyw fath o adferiad cyn iddynt orfod ailintegreiddio i fywyd arferol.
Roedd yn wych gweld Mala Tribich, seren y sioe yn ddi-os yn ein digwyddiad ni yma yn y Senedd ar 14 Ionawr, ond hi hefyd oedd y cymeriad canolog yn Neuadd Ganolog San Steffan, oherwydd ei stori hi a grybwyllwyd gan Brif Weinidog y DU; hi roddodd ef ar ben ffordd ynglŷn â beth i'w ddweud. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf calonogol am y digwyddiad ddoe yn Neuadd y Ddinas oedd clywed Dr Martin Stern yn dweud mor eglur nad yw'n ymwneud â'r un digwyddiad hanesyddol hwn yn unig, ond ynghylch y 50 o'r holocostau eraill sydd wedi digwydd ers hynny; yr holl hil-laddiadau sydd wedi digwydd ers hynny. Roeddwn i eisiau dweud hefyd fy mod i'n credu bod menter 'Sefyll Gyda'n Gilydd' wrth gofio'r Holocost eleni yn bwysig iawn, gan ei bod wedi dechrau adrodd hanes yr holl bobl eraill a lofruddiwyd gan y Natsïaid fel bod—. Ar fy nghadair roedd enw rhywun a elwid yn Ewald Förster a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn hoyw, a hefyd Sophie Blaschke a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn anabl.
Ond yn yr un modd, roeddwn eisiau dychwelyd at yr hyn a grybwyllwyd gan Mark Isherwood, sef hefyd, dinistrio a llofruddio y Roma a'r Sinti, a grybwyllwyd gan Isaac Blake. Croesawodd y prosiect cerrig coffa a ddaeth hefyd i'r Senedd bythefnos yn ôl, a threfnwyd i ysgolion gymryd rhan yn y prosiect creadigol hwnnw fel y gallent fod yn rhan o'r gofeb barhaol yn San Steffan. Dywedodd wrthyf ddoe fod nifer o ysgolion wedi gwrthod y cyfle i ganiatáu i'w disgyblion wneud carreg goffa ar y sail nad oedd ganddyn nhw unrhyw Sipsiwn na Theithwyr ymhlith eu disgyblion, fel pe bai hyn yn rhywbeth oedd dim ond yn effeithio ar fathau arbennig o bobl, sy'n eithaf rhyfeddol.
Ond roeddwn eisiau dychwelyd at y ffordd yr ydym ni wedi esgeuluso, hyd yn hyn, yr arswyd a ddioddefodd y Roma a'r Sinti dan y Natsïaid. Oherwydd mae hi'n werth nodi bod y bobl Iddewig wedi cael iawndal gan yr Almaen am eu troseddau Holocost, ond yn Nuremberg, ni thrafodwyd unrhyw iawndal ar gyfer y gymuned Roma a Sinti na neb arall, hyd y gwn i. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf a ddysgais o'r digwyddiad yma yn y Senedd oedd, er ein bod yn gwybod—ac rwy'n credu bod pawb yn y Siambr hon yn gwybod y cafodd 6 miliwn o Iddewon eu llofruddio gan y Natsïaid—nid ydym yn gwybod faint o Roma a Sinti a lofruddiwyd gan y Natsïaid, er eu bod yn dra gofalus wrth gofnodi popeth a wnaethent. Rydym yn gwybod bod y nifer yn fawr, ond nid oes gennym ni unrhyw syniad pa mor fawr. Mae'r rhan fwyaf o amcangyfrifon yn nodi rhwng 220,000 a 500,000, ond mae rhai ysgolheigion yn dweud ei fod cymaint â 1.5 miliwn. Tybed a oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r ymchwil sydd ei hangen i gadarnhau'n union faint o Roma a Sinti a lofruddiwyd gan y Natsïaid oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o gofnodi'r boen a'r dioddefaint a dioddefodd pobl oedd yn bennaf yn anllythrennog, ac na fu iddyn nhw felly gofnodi pethau yn y ffordd y gwnaeth y rhan fwyaf o bobl Iddewig. Felly, tybed a oes unrhyw beth y gellid ei wneud i gywiro hynny, i helpu i gefnogi rhagor o ymchwil i geisio cael syniad llawer mwy manwl o faint o bobl eraill, ar wahân i Iddewon, a lofruddiwyd gan y Natsïaid.