Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch ichi am dynnu sylw at y darllediadau a'r digwyddiadau niferus eraill a gynhaliwyd ddoe. Rwy'n credu y byddai gennych chi ddiddordeb gwybod bod Dr Martin Stern yn gwneud ymweliadau drwy'r wythnos—mae'n 80 a cherddodd draw i Dŷ Cwrdd y Crynwyr neithiwr a rhoddodd araith am awr heb unrhyw bapurau o'i flaen. Roedd yn rhyfeddol. Heddiw mae'n siarad â 280 o ddisgyblion o flwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan; mae'n mynd i Ysgol Uwchradd y Dwyrain, mae'n siarad â myfyrwyr, mae'n mynd i gwrdd â chyngor yr ysgol; mae'n siarad â 130 o ddisgyblion chweched dosbarth a staff o Gaerdydd a chanol de Cymru; mae'n mynd i Abertawe; mae'n mynd ar hyd a lled Cymru, yn y de—eich holl etholaethau, fe welwch y bydd yno. Mae wedi bod i'r gogledd, dywed wrthyf, sawl gwaith. Ond mae'n eithaf rhyfeddol, dylanwad goroeswyr. Mae'n feddyg wedi ymddeol, ac mae'n dweud, 'Dyma'r hyn rwy'n ei wneud', a siaradodd neithiwr am y ffaith na allai siarad amdano, ni allai wneud hyn, nes yr oedd wedi ymddeol. Ac mae llawer o oroeswyr eraill wedi bod yn y sefyllfa hon, a diolch i chi am grybwyll Mala Tribich a'r hyn a wnaeth.
Nawr, rwyf eisiau dweud yn olaf, mewn ymateb i'ch dau sylw, ydy, mae'n bwysig bod Sefyll Gyda'n Gilydd mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud o ran cryfhau cydraddoldeb a chynhwysiant a hawliau dynol yng Nghymru, a rhaid inni gydnabod hynny o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb, eithrio a gwahaniaethu. Ac fe af ar drywydd hyn gydag Issac Blake. Rydym yn ariannu, yn cefnogi, fel y dywedais, sefydliadau sy'n cefnogi Sipsiwn a Theithwyr, ond hefyd cymuned gelfyddydau y Romani y mae Issac yn ei chefnogi. Gan ei fod yn dylanwadu ar ysgolion ar draws Cymru, o Gasnewydd, o Billgwenlli, i Gaerfyrddin, i Sir Benfro, a'r plant, nad ydynt—yn amlwg, nid yw'r rhain i gyd yn ysgolion amrywiol, ond ysgolion sy'n dysgu am hyn, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ni ehangu ein gwybodaeth, gan y bydd hynny'n bwysig i'r myfyrwyr a'r plant, a fydd yn elwa.