Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Ddoe oedd Diwrnod Cofio'r Holocost 2020, a oedd eleni yn nodi saith deg pump o flynyddoedd ers rhyddhau carcharorion Auschwitz-Birkenau.
Mae'r Holocost yn dal o fewn cof rhai sy'n fyw ac rydym yn parhau'n hynod ddiolchgar i'r goroeswyr sy'n teithio o amgylch y DU yn rhannu eu profiadau personol o'r cyfnod tywyll hwn o hanes. Ddoe, siaradodd y goroeswr Dr Martin Stern MBE yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd gyda'r Prif Weinidog, ac yn nigwyddiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Diwylliannol Mwslimaidd Cymreig neithiwr, ac roeddwn yn bresennol yno hefyd gyda'r Prif Weinidog. Roedd llawer o'r Aelodau'n bresennol yn nigwyddiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd ar 14 Ionawr, lle adroddodd y goroeswr Mala Tribich ei hanes personol, a siaradodd Isaac Blake am brofiadau Roma a Sinti a ddioddefodd yn ystod yr Holocost.
Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 yw Safwn Gyda'n Gilydd. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost wedi annog pobl i ystyried beth all rannu cymunedau. Fel y dywedodd yr Ymddiriedolaeth:
Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni sefyll ynghyd gydag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal ymrannu ac ymledu gelyniaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn ein cymdeithas.
Roedd yn anrhydedd i'r Prif Weinidog a minnau hefyd gymryd rhan yn nefod goleuo'r canhwyllau ar wythfed noson Hanukkah. Roeddem yn ddiolchgar i Synagog Ddiwygiedig Caerdydd am ein gwahodd i Insole Court yng Nghaerdydd i ymuno yn y dathliadau. Yn anffodus, yn ystod Gŵyl Hanukkah, cafodd graffiti gwrthsemitaidd ei baentio â chwistrell ar synagog a sawl siop yng Ngogledd Llundain. Ar ddechrau mis Ionawr, adroddwyd bod bachgen 13 oed wedi dioddef ymosodiad corfforol a chamdriniaeth gwrthsemitaidd wrth deithio ar fws yn Llundain. Mae'r digwyddiadau hyn yn y DU yn dilyn cyfres o ymosodiadau gwrthsemitaidd yn Efrog Newydd drwy gydol mis Rhagfyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda chymunedau Iddewig ac yn erbyn gwrthsemitiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Yn dilyn yr ymosodiad erchyll ar y synagog yn Halle, yn nwyrain yr Almaen, ar 9 Hydref 2019, a arweiniodd at farwolaeth dau o bobl, ysgrifennais at rabïaid yng Nghymru i atgoffa cymunedau ein bod yn llwyr gefnogol iddynt.