Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 28 Ionawr 2020.
Ym mis Mai 2017, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod. Rydym ni hefyd wedi darparu £40,500 o arian pontio'r UE i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i wneud gwaith yng Nghymru yn rhan o'r digwyddiadau coffáu eleni.
Aeth y cyllid tuag at dair elfen: prosiect fflamau coffa 75, lle roedd grwpiau cymunedol ledled y DU yn creu eu darnau eu hunain o waith celf i gofio am bawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Cafodd naw o'r fflamau coffa hyn eu datblygu gan grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys cynigion gan grŵp celf Carchar EM Caerdydd, llyfrgell ganolog Merthyr Tudful a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn bwriadu dod ag arddangosfa o bob un o'r 75 o fflamau coffa i Gaerdydd ym mis Chwefror, ond gallwch weld enghreifftiau o'r fflamau coffa yma yn y Senedd tan 29 Ionawr; gwefan Sefyll Gyda'n Gilydd sy'n dangos enw unigolyn a laddwyd yn yr Holocost ac sy'n annog defnyddwyr y wefan i rannu manylion yr unigolyn hwn ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r straeon unigol y tu ôl i'r hil-laddiad dirdynnol; ac yn olaf, cyflogi gweithiwr cymorth i annog gweithgaredd yng Nghymru ynglŷn â Diwrnod Coffáu'r Holocost 2020.
Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau y tu ôl i'r Holocost a chanlyniadau dad-ddyneiddio rhannau o gymdeithas. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £119,000 i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i gyflwyno'r prosiect Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn agored i fyfyrwyr 16 i 18 oed sydd mewn addysg ôl-16, ac mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr glywed tystiolaeth goroeswr yr Holocost a hefyd i gymryd rhan mewn ymweliad ag Auschwitz-Birkenau. Yna, daw myfyrwyr yn llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn eu cymunedau eu hunain, a defnyddiant eu profiadau i ledaenu ymwybyddiaeth a herio hiliaeth a rhagfarn.
Yn ychwanegol at ein gwaith i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth a choffáu'r Holocost, rydym wedi atgyfnerthu ein rhaglenni presennol sy'n atal casineb, yn hyrwyddo cynnwys cymunedau amrywiol, ac yn gwella cefnogaeth i ddioddefwyr. Rydym ni wedi ehangu ein cefnogaeth i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, y mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn ei gweithredu ar ein rhan. Mae gan y ganolfan bellach fwy o allu i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, datblygu partneriaethau gyda sefydliadau cymorth cymunedol, a sicrhau y gellir cynnig cymorth i bawb sydd wedi dioddef trosedd casineb.
Yn ddiweddar, rydym ni wedi datblygu'r grant cymunedau lleiafrifol i fynd i’r afael â throseddau casineb, sy'n ariannu wyth o sefydliadau'r trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sut i roi gwybod amdanynt, ceisio hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth mewn cymunedau, ac arbrofi gyda dulliau arloesol o fynd i'r afael â throseddau casineb a chefnogi dioddefwyr. Bydd y prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion yn darparu hyfforddiant sgiliau meddwl beirniadol i blant mewn tua 100 o ysgolion ledled Cymru, gan arfogi ein pobl ifanc â'r sgiliau i adnabod casineb a chamwybodaeth, i'w galluogi nhw i osgoi cyflawni'r cyfryw droseddau yn y dyfodol a herio ymddygiad negyddol lle mae'n digwydd.
Mae ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant yn cefnogi cymunedau lleiafrifol i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac yn herio anghydraddoldebau. Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys grwpiau yr effeithiwyd arnynt gan erledigaeth a hil-laddiad, fel Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio ymgyrch yn erbyn troseddau casineb i geisio atal y llif o rethreg gynhennus sy'n cael ei lledaenu. Rydym yn cynnwys rhanddeiliaid er mwyn gwneud yr ymgyrch mor effeithiol â phosib.
Yn drasig, mae achosion eraill o hil-laddiad wedi dilyn yr Holocost. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein hannog i gofio'r holl bobl a laddwyd mewn hil-laddiadau, fel yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae eleni hefyd yn bum mlynedd ar hugain ers y gyflafan yn Srebrenica, a gaiff ei choffáu ym mis Gorffennaf mewn digwyddiad yn y Senedd.
Mae'n ddyletswydd arnom i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost, ac i gofio pawb o bob cefndir a ddioddefodd: pobl Iddewig; pobl Roma; pobl anabl; pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, a llawer o grwpiau eraill a wynebodd erledigaeth annirnadwy yn ystod y cyfnod hwn, ac a gollodd eu bywydau yn y pen draw gan fod casineb a rhagfarn wedi dod yn dderbyniol. Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto.