2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2020.
2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r berthynas rhwng rhagamcanion poblogaeth a chynlluniau datblygu lleol? OAQ54991
Ie. Mae'r amcanestyniadau aelwydydd, yr asesiadau o'r farchnad dai leol a'r cynlluniau llesiant yn rhannau hanfodol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw penderfynu ar raddfa twf tai, gan adlewyrchu'r materion y maent wedi'u nodi.
Mi gafodd cynllun datblygu lleol Wrecsam, wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, ei wrthod nôl yn 2013 gan yr arolygwyr cynllunio oherwydd nad oedd digon o dir, medden nhw, wedi’i glustnodi ar gyfer tai, a hynny oherwydd bod rhagamcanion poblogaeth y sir yn dweud y byddai yna 20 y cant o gynnydd yn y boblogaeth—yr ail gynnydd mwyaf drwy Gymru gyfan; yn ail yn unig i Gaerdydd mae'n debyg. Ond, wrth gwrs, mae'r gwirionedd yn dra gwahanol.
Dros y bum mlynedd ddiwethaf mae'r cynnydd yn y boblogaeth wedi bod yn sylweddol is na'r rhagamcanion. Er hynny, mae'n ymddangos bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn dal ddim yn gwrando oherwydd maen nhw'n parhau i herio cyngor Wrecsam. Mae'r cyngor yn edrych i darged o ryw 8,500 o dai yn eu cynllun datblygu lleol tra bod yr Arolygiaeth Gynllunio nawr yn mynnu bod angen bron i 12,000 o dai yn y cynllun hwnnw. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i olygu codi mwy o dai ar feysydd gwyrdd, mae'n mynd i greu rhyw fath o urban sprawl sy'n mynd i ddinistrio cymunedau unigryw yr ardal.
Felly, fy nghwestiwn i ichi, Gweinidog, yw: ble mae'r Llywodraeth yn sefyll ar y mater yma? A ydych chi o blaid cyfundrefn sy'n gorfodi codi tai diangen, neu a ydych chi o blaid amddiffyn ein hamgylchedd ac amddiffyn ein cymunedau ni?
Wel, diolch am hynny. Fel y gŵyr Llyr Gruffydd, mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Mae'n hollol iawn i ddweud bod cynllun datblygu lleol gwreiddiol Wrecsam wedi cael ei wrthod o ganlyniad i'r ffordd y lluniwyd eu polisi dyrannu tir ar gyfer tai. Er bod gan y cyngor gynllun datblygu unedol cyfredol ar waith, mae wedi dod i ben at ddibenion cyfrifo'r cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. Fel y gŵyr, mae'r awdurdod wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn agored i hap-ddatblygu hyd nes y caiff y cynllun datblygu lleol ei fabwysiadu. Mae'r cynllun datblygu lleol ar y cam archwilio ar hyn o bryd.
Mae'r arolygwyr wedi codi pryderon ynghylch lefel y tai a argymhellir yn y cynllun, gan holi'n benodol a yw'n ddigon uchelgeisiol. Mae lefel y tai a argymhellir gan y cyngor yn cyd-fynd â'r amrywiolyn ymfudo 10 mlynedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014, sef gofyniad am 7,750 o gartrefi. Mae swyddogion wedi cyflwyno sylwadau cyhoeddus i gefnogi'r lefel o dai yng nghynllun datblygu lleol Wrecsam, ac nid ydynt yn credu y dylid ei chynyddu ymhellach.
Mae lefel y tai yn cyd-fynd yn fras â'r cyfraddau cyflenwi ar gyfer y 10 mlynedd blaenorol. Mae'r arolygwyr wedi gofyn i'r cyngor ddarparu eglurhad ychwanegol ar y mater hwn, a'r dyddiad ar gyfer darparu hwnnw yw 31 Ionawr. Cynhelir sesiwn wrando ychwanegol ar 11 Mawrth i ystyried materion tai ymhellach. Felly, rwy'n credu y gallwch weld bod ein swyddogion yn cytuno'n fras â'r hyn rydych yn ei ddweud, sef, o ystyried y rhagamcanion cyfredol a'r hyn y mae Wrecsam yn ei ragweld yn y cynllun datblygu lleol, fod ein swyddogion wedi cyflwyno sylwadau yn dweud ein bod yn credu bod Wrecsam yn eithaf agos ati.
Mae bob amser yn gydbwysedd anodd i gynghorau gan mai rhagamcanion yn unig ydynt. Nid ydynt yn bolisïau sy'n seiliedig ar gynllun. Maent wedi'u seilio ar dueddiadau rhagamcanol yn y boblogaeth, ond nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiad economaidd na thwristiaeth nac unrhyw ddyheadau eraill a allai fod gan y cyngor, ac ni fwriedir iddynt fod yn darged mewn unrhyw ffordd. Nid ydynt ond yn un rhan o set o dystiolaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod ei hystyried pan fydd yn gosod ei darged tai lleol.
Er enghraifft, mewn ardal awdurdod lleol, os yw nifer yr aelwydydd sy'n cael eu creu yn fwy na lefel y cynnydd yn y boblogaeth oherwydd bod niferoedd cynyddol o bobl sydd eisiau byw ar eu pen eu hunain, er enghraifft, gallai'r targed tai fod yn uwch na'r cynnydd yn y boblogaeth a'r rhagolwg. Felly, mae'n fater llawer mwy cymhleth na hynny. Ond rwy'n credu mai'r ateb syml i'ch cwestiwn yw bod ein swyddogion yn cytuno bod y cynllun yn eithaf agos at lle dylai fod a'u bod wedi cyflwyno sylwadau i'r perwyl hwnnw yn y system.
Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi ei fod yn ddarlun cymhleth sy'n cael ei beintio bob tro y mae cynllun datblygu lleol dan ystyriaeth, a'r cymysgedd o dai sydd eu hangen hefyd, o aelwydydd meddiannaeth unigol i aelwydydd amlfeddiannaeth. Ond mae'n ffaith, yn amlwg, pan fydd cynghorau'n cyflwyno eu cynlluniau datblygu lleol, fod yn rhaid iddynt roi sylw dyledus i ragolygon poblogaeth.
Un peth sy'n codi dro ar ôl tro yw bod rhagolygon poblogaeth yn llywio nifer yr unedau sydd i'w hadeiladu ond yn aml iawn, nid yw'r rhagolygon poblogaeth hynny'n bwydo i mewn i'r broses o ddarparu meddygfeydd, cyfleusterau addysg ac ati. A allwch chi roi hyder i mi y bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar y gwasanaethau sy'n ofynnol i gynnal y datblygiadau y mae pawb ohonom yn derbyn ein bod eu hangen? Gwyddom fod yna argyfwng tai, a gwyddom y gellir dwyn perswâd ar y rhan fwyaf o bobl os gellir eu sicrhau bod yr ystyriaethau trafnidiaeth yn cael eu hystyried, fod darpariaeth gwasanaethau'n cael ei hystyried, yn hytrach na dim ond nifer y tai sydd angen eu hadeiladu.
Ie, a'r ateb i'ch cwestiwn yw edrych ar y set gymhleth o gyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth bennu'r gwahanol bethau. Felly, gallwn edrych ar y rhagamcanion o niferoedd tai, er enghraifft, ac mae'n rhaid i'r cynllun datblygu lleol roi sylw i nifer o bethau wrth ystyried ei gyflenwad o dir ar gyfer tai a gwneud hynny, fel rwyf newydd ei ddweud wrth Llyr. Ond mae gennym ni hefyd, er enghraifft—. Rydym wrthi'n ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, sy'n cynnwys rhai pethau seilwaith mawr. Fel y gwyddoch, rydym wrthi'n rhoi fframwaith ar waith, drwy Fil Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru), i hwyluso'r trefniadau cynllunio strategol rhanbarthol ar gyfer awdurdodau lleol, a ddylai roi'r trefniadau cynllunio rhanbarthol ar waith ar gyfer y mathau hynny o seilwaith. Felly, yn gyffredinol, bydd y set o gynlluniau a fydd gennym ar waith maes o law yn gwneud yn union hynny.
Y ffordd rwyf wedi bod yn ei esbonio, gan ein bod wedi bod yn cynnal nifer o gyfarfodydd i randdeiliaid, yw y dylech allu dweud, drwy osod cynllun cyffredinol ar gyfer Cymru, 'Wel, dyma'r cefnffyrdd, dyma'r ysbytai, dyma'r ysgolion presennol, dyma lle mae'r tai, dyma lle dylai'r ysgol newydd fod', ac yn y blaen, ac yna pan fydd y cyngor yn trafod gyda'r cwmni adeiladu tai ynglŷn â'u cyfraniad i seilwaith lleol, byddai llawer mwy o sicrwydd ynghylch sut y dylai'r seilwaith hwnnw edrych ymlaen llaw, felly pan fydd rhywun yn cynllunio i gyflwyno darn o dir, byddant yn gwybod ei bod yn debygol y bydd yn rhaid iddynt gyfrannu at yr ysgol neu at yr ysbyty neu beth bynnag sydd gerllaw.
Nid ydym wedi dechrau hyn yn y lle gorau posibl. Rydym wedi dechrau arni ar y gwaelod, a byddai wedi bod yn well gennyf ddechrau ar y brig. Ond dechreuodd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths y broses ychydig cyn i mi gael y portffolio, ac yn fuan iawn, byddwn mewn sefyllfa lle mae gennym yr holl gynlluniau hynny ar waith, a byddwn yn gallu gwneud yn union fel rydych yn ei awgrymu.