1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Chwefror 2020.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio trefi yng Nghymru? OAQ55028
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Nododd cyhoeddiad trawsnewid trefi y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio trefi ledled Cymru. Rydym ni bellach yn bwriadu mabwysiadu a hyrwyddo dull canol trefi yn gyntaf o ymdrin â datblygiadau newydd.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o glywed am y pecyn o fesurau a ddygwyd ynghyd o dan yr agenda trawsnewid trefi, ac maen nhw'n dangos, rwy'n credu, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drefi fel Aberpennar ac Aberdâr yn fy etholaeth i.
Nawr, gyda fy niddordeb mewn treth ar dir gwag, ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n croesawu'n arbennig y cyllid ychwanegol o £13.6 miliwn i fynd i'r afael ag adeiladau a thir gwag sydd wedi dadfeilio. A all y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy am hyn, yn enwedig yng nghyd-destun yr ymgynghoriad diweddar ar orchmynion prynu gorfodol, a fydd yn rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â hyn a mynd i'r afael â malltod trefol?
Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Diolchaf iddi am gydnabod y pecyn trawsnewid trefi a'r ffordd y bydd yn cyrraedd trefi yn ei hetholaeth hi. Mae diddordeb yr Aelod mewn treth ar dir gwag yn hysbys iawn, ar ôl iddi arwain dadleuon ar y pwnc yn y fan yma ar lawr y Cynulliad.
Llywydd, fy marn i yw y gellir datrys y rhan fwyaf o eiddo gwag a safleoedd nad ydynt wedi ei datblygu yng Nghymru trwy gamau gweithredu a gaiff eu cytuno rhwng perchenogion, datblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus. Dyna pam yr ydym ni'n cyfrannu £10 miliwn at ddod â chartrefi gwag yng Nghymru yn ôl i ddefnydd buddiol; dyna pam mae ein cronfa safleoedd segur gwerth £40 miliwn yn gweithio gyda datblygwyr a pherchnogion i allu buddsoddi yn y safleoedd hynny fel bod ganddyn nhw werth masnachol newydd. Ond, ledled Cymru, mae gennym ni adeiladau sy'n sefyll yn ystyfnig o wag, lle mae eu perchnogion yn aml wedi diflannu, lle nad oes unrhyw ateb i ymdrechion awdurdodau cyhoeddus i gysylltu â nhw fel bod modd unioni'r malltod a achosir gan yr eiddo gwag hwnnw. Dyna pam mae gennym ni gronfa o £13.6 miliwn i fynd i'r afael ag adeiladau a thiroedd gwag ac adfeiliedig, a dyna pam yr ydym ni angen gorchmynion prynu gorfodol cryfach i roi'r grym i awdurdodau lleol sydd ei angen arnyn nhw pan fydd perswâd wedi methu, pan fydd yr holl ymdrechion y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu gwneud i geisio sicrhau gwelliant ar sail y cytunwyd arni—lle mae'r adeiladau hynny a'r darnau gwag hynny o dir yn falltod ar gymunedau, yn atal adfywiad canol trefi, mae awdurdodau cyhoeddus angen yr arian yr ydym ni'n ei roi iddyn nhw a'r pwerau y byddwn ni'n eu cyflenwi iddyn nhw i gymryd camau pendant.
Un cam hanfodol tuag at adfywio canol trefi yw cymryd camau pendant i ymdrin â malltod erchyll digartrefedd sy'n achosi cymaint o ddioddefaint mawr i bobl agored i niwed ac sy'n cael effaith amlwg iawn ar ganol trefi a chanol dinasoedd. Nawr, mae ffigurau newydd ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd. Rwy'n gwybod mai dim ond cipolwg yw hwn, ond maen nhw'n awgrymu cynnydd o tua 20 y cant yn ystod cyfnod o bythefnos ym mis Hydref 2019 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac rwy'n sylwi bod Casnewydd a Chaerffili yn gwneud yn arbennig o wael.
Nawr, Prif Weinidog, nid gwneud pobl ddigartref agored i niwed yn droseddwyr yw'r ateb, does bosib, a chymryd eu heiddo prin oddi arnyn nhw, fel y mae rhai cynghorau yn ei wneud, ond siawns mai'r ateb yw ariannu gwasanaethau digartrefedd yn briodol a gweithredu cynlluniau cadarn, fel yr un a gynigiwyd gan y sefydliad Crisis. Felly, a allech chi ddweud wrthyf i, os gwelwch yn dda, pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i ymdrin â'r broblem gynyddol anobeithiol hon o ddigartrefedd ar strydoedd Cymru?
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi, wrth gwrs, nad troseddoli yw'r ateb i ddigartrefedd a chysgu ar y stryd. Diolchaf i'r Aelod hefyd am dynnu sylw at y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio'r ddadl a gawsom y llynedd pan aeth y ffigurau i lawr, pryd yr oedd teimlad cyffredinol, o brofiad personol pobl o weld cynnydd mewn digartrefedd ar y stryd, ei bod yn anodd cysoni ffigur is gyda'r hyn yr ydym ni'n ei weld. Ac, o ganlyniad i'r trafodaethau a gawsom ni yn y fan yma, mae'r fethodoleg ar gyfer eleni wedi cael ei diwygio a'i gwella, ac rwy'n credu y gallwch chi weld rhywfaint o hynny yn y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw. Maen nhw'n dangos, fel bob amser, darlun cymysg: gostyngiad i nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd mewn pum awdurdod lleol, gan gynnwys Gwynedd, Wrecsam a Chaerdydd, lle cafwyd gostyngiadau sylweddol, ac yna cynnydd mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn ymateb i ddigartrefedd. Mae gennym ni ffyrdd newydd yr ydym ni'n rhoi cynnig arnyn nhw i ymateb i gysgu ar y stryd drwy'r fenter Tai yn Gyntaf, sydd eisoes yn helpu dros 60 o bobl dros y gaeaf hwn i fynd yn syth i lety. Rydym ni'n gwneud hynny yn nannedd tymestl cyni cyllidol, sef yr hyn sydd wrth wraidd pobl yn colli eu cartrefi, yn colli eu bywoliaeth, ac yn canfod eu hunain yn y sefyllfa enbyd hon. Byddwn yn defnyddio'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw i weithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, yn y trydydd sector, i weld beth arall y gellir ei wneud, gan ddefnyddio'r adroddiad a gomisiynwyd gan Julie James ar gyfer y gaeaf hwn, dan gadeiryddiaeth prif weithredwr Crisis, fel y gallwn ddysgu gwersi o fannau eraill hefyd.