Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 4 Chwefror 2020.
Prif Weinidog, mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fy etholaeth i. Yn ardal Taf Elái, bu cynnydd aruthrol i nifer y tai, ac yn ystod y degawd nesaf fwy neu lai, mae'n debygol y bydd 20,000 o gartrefi newydd ychwanegol. Mae'r ddemograffeg wedi newid yn sylweddol iawn ers rhaglen wreiddiol De Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi y dylai unrhyw adolygiad clinigol o ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys ystyried newidiadau mor sylweddol o ran demograffeg?