Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolchaf i'r Aelod am hynna, a rhoddaf yr un ateb a roddais yn gynharach yn y cwestiwn hwn, sef ei bod yn bwysig, wrth wneud penderfyniadau chwe blynedd ymlaen o raglen de Cymru, bod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yn y gyfres fwyaf cyfredol o ddirnadaeth am y cyd-destun presennol. Bydd pethau wedi newid yn ystod y chwe blynedd hynny, bydd tueddiadau demograffig wedi newid, bydd adeiladu tai wedi newid. Disgwyliaf i'r bwrdd iechyd ystyried yr holl bethau hynny wrth iddo wneud penderfyniadau, fel bod ei benderfyniadau yn cael eu gwneud, yn union fel y dywedodd Mick Antoniw, yng ngoleuni amgylchiadau cyfredol.