Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 4 Chwefror 2020.
Mewn dadleuon blaenorol, rydym ni i gyd wedi cydnabod y gwaith campus y mae staff gofal cymdeithasol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad, gan ddarparu gofal hanfodol yn ein cymunedau. Rydym wedi trafod yr angen i wella ansawdd y gofal a'i swyddogaeth hanfodol wrth helpu pobl i fyw bywyd o ansawdd da, yn annibynnol, mewn lleoliadau sy'n ateb eu hanghenion a'u disgwyliadau nhw.
Mae gofal cymdeithasol rhad ac am ddim pan fydd ei angen yn ddyhead y mae llawer ohonom ni'n ei rannu. Eto i gyd, rydym ni'n amcangyfrif ar hyn o bryd bod darparu gofal personol a llety yn rhad ac am ddim mewn cartref gofal yn debygol o gostio dros £700 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol. Yn ein barn ni fe fyddai hyn ymhell y tu hwnt i'n gallu ni i'w ddarparu, ac ni fyddai, ar sail y ffigurau hyn, yn mynd i'r afael â thelerau ac amodau'r staff. Felly, rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu dewisiadau a ariennir sy'n gynaliadwy ac yn darparu gofal o safon well.
Gyda hyn mewn golwg, mae'r grŵp rhyng-weinidogol wedi ystyried nifer o feysydd lle gallai buddsoddiad gael yr effaith fwyaf, gan geisio adeiladu ar fentrau a pholisïau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn cynnwys: archwilio modelau newydd o ofal; gwrthbwyso elfennau o dalu am ofal cymdeithasol o bosibl; ac ystyried sut i sicrhau gwelliannau i ansawdd gwasanaethau yn sgil buddsoddiad yn y gweithlu gofal cymdeithasol.
Ceir ymwybyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd swyddogaeth ein gweithlu ni o ran ansawdd ac effeithiolrwydd gofal cymdeithasol. Er hynny, nid yw cyflogau na thelerau cyflogaeth yn adlewyrchu hyn. Canlyniad hyn yw trosiant blynyddol o 30 y cant, yn ôl yr amcangyfrif, yn y gweithlu gofal cartref. Yn fy marn i, mae'n bwysig ein bod ni, fel mater o flaenoriaeth yn nodi'r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â chadw staff a gwella dilyniant ac ansawdd y gofal. Fe ddylai hyn gefnogi ein dull ni o weithredu'r economi sylfaen a gwaith teg.
Rydym eisoes yn ysgogi nifer o fodelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol integredig drwy'r gronfa weddnewid a gyhoeddais yn rhan o 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Fe fyddwn ni'n manteisio ar yr hyn a gafodd ei ddysgu o brosiectau'r gronfa gweddnewid.
Mae'r grŵp yn awyddus i ehangu manteision ein cronfa gofal integredig, lle mae'r rhaglen gyfalaf wedi cryfhau'r cysylltiad rhwng tai o ansawdd da a chanlyniadau da o ran iechyd a lles. Rydym ni'n ystyried datblygu modelau newydd o ofal sy'n gysylltiedig â thai gyda'r nod o gadw mwy o bobl yn annibynnol ac allan o ofal preswyl a gofal acíwt am gymaint o amser â phosibl.
Fel y dywedais i, rydym eisoes yn darparu fframwaith hael ar gyfer codi tâl yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod yr angen i barhau i wella'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig. Mae'r grŵp rhyng-weinidogol yn ystyried y dewisiadau sy'n ymwneud â: chyflwyno gofal dibreswyl a ariennir; cyfraniad tuag at gost gofal preswyl i'r rheini sy'n talu fwyaf; a darparu gofal personol a ariennir ar gyfer unrhyw un sy'n gymwys.
Fe fydd gweithredu ar unrhyw un neu'r cyfan o'r dewisiadau yr wyf i newydd eu hamlinellu yn gofyn am fuddsoddiad ar ben yr adnoddau sydd eu hangen i gynnal y lefelau presennol o wasanaeth. Rydym eisoes wedi trafod y posibilrwydd o godi trethi yng Nghymru i greu'r adnoddau ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae angen inni fod yn hyderus y gallwn ni sicrhau datrysiad cynaliadwy o ran ariannu sy'n effeithiol i Gymru.
Felly, nid yw'r grŵp wedi rhoi cyfyngiadau ar ei feddylfryd. Rydym wedi ystyried y gwaith ar y cyd ar ariannu gofal cymdeithasol a wnaed gan y pwyllgor dethol ar iechyd a gofal cymdeithasol a'r pwyllgor dethol ar gymunedau a llywodraeth leol yn ystod Senedd ddiwethaf y DU. Rydym wedi adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael o fodelau rhyngwladol hefyd. Mae'r rhain yn amlygu'r heriau sydd i sefydlu model ariannu newydd ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae gan wledydd fel yr Almaen a Siapan fodelau sefydledig o ariannu gofal cymdeithasol, neu fodelau yswiriant gofal hirdymor, sy'n seiliedig ar gydnabyddiaeth glir o'r angen am gyfraniadau gan unigolion ar gyfer yswiriant gofal cymdeithasol.
Rydym yn parchu ac yn gefnogol iawn i'n gwasanaeth iechyd gwladol ac rydym yn parhau i amddiffyn egwyddor gofal iechyd sydd ar gael yn rhad ac am ddim pan fydd ei angen. Mae angen newidiadau i'r modelau rhyngwladol a adolygwyd er mwyn iddynt allu parhau i fod yn hyfyw, gyda buddion cyfyngedig i ofal cymdeithasol neu gyfraniadau ariannol uwch. Fe fyddai hyn yn awgrymu, pe baem ni'n codi trethi i ariannu gwelliant mewn gofal cymdeithasol, yna byddai angen inni alinio'n agos â'r canlyniadau penodol yr ydym yn dymuno eu cyflawni er mwyn cael datrysiad sy'n ddigon hyblyg a chynaliadwy.
Mae dewisiadau gwirioneddol i'r genedl yma. Bydd dod i gytundeb ynghylch yr angen am newid a natur y cytundeb hwnnw yn hanfodol ar gyfer diwygio i'r dyfodol. Rwy'n awyddus i barhau â'r drafodaeth hon heddiw a thu hwnt gydag Aelodau, gyda phwyllgorau a rhanddeiliaid ehangach i helpu i lywio cyfeiriad y daith a llunio darlun o'n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yr ydym ni'n dymuno eu gweld yn y dyfodol yng Nghymru.