Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad.
Nid wyf eisiau amddiffyn unrhyw doriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU ond, yn amlwg, bydd unrhyw arian ychwanegol i'w wario ar system cyfiawnder wedi'i datganoli yn dibynnu ar fformiwla Barnett. Onid oes dadl dros ddweud y dylem ni fod yn gwario'r arian sydd gennym ni, gan ganolbwyntio mwy o hynny ar atal pobl rhag ymuno â'r system gyfiawnder yn y lle cyntaf?