Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 4 Chwefror 2020.
Llywydd, mae'r gyfraith yn cynnwys rheolau cymdeithas sy'n ein galluogi i fyw, gweithio a mwynhau bywyd gyda'n gilydd, ac mae'r egwyddorion sy'n sail i'n cyfraith yn seiliedig ar werthoedd ein cymdeithas ac maen nhw wedi'u rhwymo at ei gilydd mewn fframwaith cyfreithiol, a ategir gan yr hyn yr ydym yn ei alw'n rheol y gyfraith. Heddiw, rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel Cadeirydd y pwyllgor seneddol Cymreig cyntaf erioed sy'n ymroddedig i graffu ar ein cyfansoddiad, deddfwriaeth ac erbyn hyn cyfiawnder. Felly, mae hwn yn ddechrau hanesyddol i Gymru, nid yn unig yn ein datblygiad fel senedd sy'n creu cyfreithiau, ond hefyd o ran dyfodiad ein system gyfreithiol ein hunain.
Bydd fy mhwyllgor yn datblygu rhaglen waith gyda'r nod o graffu ar ein system farnwrol bresennol o dribiwnlysoedd a chyrff lled-farnwrol, ac archwilio sut y mae meysydd polisi yng Nghymru yn rhyngweithio ag awdurdodaeth gyfreithiol bresennol Cymru a Lloegr. Bydd angen i ni ddatblygu dealltwriaeth o rai egwyddorion sylfaenol er mwyn i'r gwaith hwn lwyddo. Felly, nid yw'r mater o ddatganoli cyfiawnder yn ymwneud â throsglwyddo pŵer o San Steffan neu o'r lle hwn, felly mae gwrthwynebu newid gydag ymadroddion fel y clywsom yn ystod Deddf Cymru 2017, bod system gyfreithiol Cymru a Lloegr wedi ein gwasanaethu'n dda, yn camddeall yn sylfaenol natur y modd o weinyddu cyfiawnder, sy'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod achosion yn cael eu clywed a'u gweinyddu'n effeithlon mor agos i'r bobl â phosibl, gan farnwyr a chan gyfreithwyr sy'n adnabod y cymunedau lleol ac sy'n deall y gyfraith berthnasol.
Nid yw ein system bresennol o weinyddu cyfreithiol yn addas i'r diben. Mae toriadau cymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU yn dilyn y Ddeddf cymorth cyfreithiol 2012 a chau llysoedd wedi dinistrio gallu pobl gyffredin i gael cyfiawnder. Mae hanner yr holl lysoedd ynadon yng Nghymru wedi cau, mae cyfiawnder lleol wedi dod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol, nid yw'r rhan fwyaf o bobl dlawd ac agored i niwed bellach yn gallu manteisio ar gyfiawnder priodol mewn llawer o'r meysydd pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau. Fel y dywed comisiwn Thomas, mae'r toriadau sylweddol i gymorth cyfreithiol wedi bod yn anodd i Gymru ac nid oes cyfiawnder priodol ar gael. Rwy'n cytuno â'r sylw hwnnw.
Pan sefydlwyd y system cymorth cyfreithiol yn 1949, roedd dealltwriaeth bod gallu i gael cyfiawnder yn elfen hanfodol o gyfiawnder. Fel y dywedodd yr Is-iarll Simon yn y ddadl honno flynyddoedd yn ôl, mae sefydlu'r gallu i gael cyfiawnder yn ddiwygiad hanfodol mewn gwir ddemocratiaeth. Felly, mae'n rhaid inni yn awr archwilio sut y gallem greu ein system newydd ein hunain ar gyfer cymorth cyfreithiol a chyngor a chynrychiolaeth i Gymru.
Mae'n rhaid inni hefyd ailsefydlu'r cysylltiad rhwng polisi cymdeithasol a gweinyddu cyfiawnder. Mae gan y Senedd hon gyfrifoldeb dros blant, gofal cymdeithasol, tai, gwasanaethau cymdeithasol, polisi cyffuriau ac alcohol, addysg, hyfforddiant a chynifer o feysydd eraill. Mae'r gwaith o weinyddu'r gwasanaethau hyn yn mynd law yn llaw â'r system gyfreithiol a weithredwn. Mae tlodi a pholisi cymdeithasol yn ffactorau allweddol wrth sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a gweinyddol ac nid yw gwahanu'r cyfrifoldeb dros bolisi datganoledig yn y meysydd hyn o gyfiawnder yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Mae angen iddynt weithio a datblygu law yn llaw.