Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Chwefror 2020.
Fe fyddwch wedi clywed fy ateb i Hefin David ynglŷn â phwysigrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cynnal digwyddiad ymgysylltu yfory, ac mae pob un o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi mynegi diddordeb yn hyn wedi cael gwahoddiad, a bydd hynny'n rhan o waith tasglu'r Cymoedd. Disgwyliwn y bydd hynny'n arwain at gynllun gweithredu penodol ar gyfer defnyddio caffael i gyflawni'r blaenoriaethau economi sylfaenol hynny ar gyfer y rhanbarth penodol hwnnw. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i wneud yr hyn a allwn i gefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth ar y cyd, a hybu eu grym gwario i'r eithaf hefyd.