Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Chwefror 2020.
Weinidog, mae canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr Undeb Ewropeaidd a chaffael cyhoeddus yn ddiddorol i'w darllen. Maent yn datgan bod yr UE yn nodi'r deddfau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy wrth ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus. Mae'r deddfau wedi'u cynllunio i agor marchnad yr UE i gystadleuaeth, i hyrwyddo rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau ac i atal polisïau rhwng dwy wlad. A yw Llywodraeth Cymru bellach yn croesawu'r cyfleoedd newydd y bydd Brexit yn eu cynnig i fusnesau Cymru ac a fydd y ddogfen ganllawiau'n cael ei diweddaru yn awr?