1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2020.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gaffael arloesol yng Nghymru? OAQ55059
Mae dulliau arloesol o gaffael eisoes yn cael eu defnyddio i hybu creadigrwydd a sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol eang i gymunedau a dinasyddion Cymru. Rydym hefyd yn gweithredu rhaglen gallu masnachol a chaffael newydd i adeiladu gallu a gwytnwch ar draws y proffesiwn caffael yng Nghymru i hybu arloesedd.
Gallaf weld bod Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Siambr, ac felly hefyd aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Byddwn yn lansio ac yn cyhoeddi ein hadroddiad ar gaffael yn yr economi sylfaenol yn ddiweddarach yr wythnos hon, felly nid wyf am ddatgelu ei gynnwys, ond hoffwn ofyn cwestiwn am gaffael sy'n gysylltiedig â hynny.
Roedd yn amlwg o'r sesiynau tystiolaeth yn yr ymchwiliad bod angen mwy o eglurder ar rôl a phwrpas byrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â chaffael arloesol. Yr wythnos ddiwethaf—yr wythnos cyn yr wythnos ddiwethaf—mewn dadl a gynhaliwyd ar drefi angor—dadl fer a gynhaliais yma—nododd y Dirprwy Weinidog rôl y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’u rôl ym maes caffael. O ystyried y diffyg eglurder, a all y Gweinidog egluro sut y mae'n disgwyl i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ymgysylltu a defnyddio eu cadwyni cyflenwi lleol er mwyn caffael mewn ffordd arloesol, yn enwedig mewn perthynas â'r economi sylfaenol?
Rwy'n ddiolchgar i Hefin David am godi'r mater hwn ac am ei ddiddordeb arbennig ynddo. Rydym yn credu bod ffocws yr economi sylfaenol yn cyd-fynd yn dda iawn â chynlluniau llesiant byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy'n adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol. Mae llawer o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus hynny wedi nodi datblygu'r economi sylfaenol fel un o'u blaenoriaethau lleol o fewn y cynlluniau llesiant hynny, ac rydym wedi bod yn ymgysylltu â hwy ers yr haf i archwilio pa gefnogaeth y gallwn ei rhoi iddynt a pha gymorth y gallwn ei ddarparu er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hynny.
Felly, cynhaliwyd gweithdy lle buom yn archwilio potensial caffael cyhoeddus i gyflawni amcanion yr economi sylfaenol a fydd yn helpu i wella llesiant lleol. Ac ers hynny, rydym hefyd wedi rhannu adroddiad a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi cael trafodaethau da gyda hwy ar hynny. Gallaf ddweud yn awr fod y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol wedi'i phenodi gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus sy'n dymuno gweithredu rhaglenni caffael blaengar. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith hwnnw. Felly, mae nifer o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi mynegi diddordeb, a bydd prosiect braenaru cychwynnol ar gaffael yn dechrau y mis nesaf. Felly, rydym yn dechrau bwrw ymlaen â'r gwaith rydym yn ei wneud gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac yn darparu cyllid i ysgogi'r gwaith hwnnw.
Weinidog, mae ffyrdd newydd o weithio mewn hinsawdd o gyllidebau cyfyngedig yn anhepgor ar gyfer cynnal ansawdd a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu cynghorau lleol i nodi anghenion cyffredin lle gallent elwa o atebion arloesol a lle byddai atebion ar y cyd yn caniatáu i fwy o adnoddau gael eu defnyddio?
Fe fyddwch wedi clywed fy ateb i Hefin David ynglŷn â phwysigrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cynnal digwyddiad ymgysylltu yfory, ac mae pob un o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi mynegi diddordeb yn hyn wedi cael gwahoddiad, a bydd hynny'n rhan o waith tasglu'r Cymoedd. Disgwyliwn y bydd hynny'n arwain at gynllun gweithredu penodol ar gyfer defnyddio caffael i gyflawni'r blaenoriaethau economi sylfaenol hynny ar gyfer y rhanbarth penodol hwnnw. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i wneud yr hyn a allwn i gefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth ar y cyd, a hybu eu grym gwario i'r eithaf hefyd.
Weinidog, mae canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr Undeb Ewropeaidd a chaffael cyhoeddus yn ddiddorol i'w darllen. Maent yn datgan bod yr UE yn nodi'r deddfau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy wrth ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus. Mae'r deddfau wedi'u cynllunio i agor marchnad yr UE i gystadleuaeth, i hyrwyddo rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau ac i atal polisïau rhwng dwy wlad. A yw Llywodraeth Cymru bellach yn croesawu'r cyfleoedd newydd y bydd Brexit yn eu cynnig i fusnesau Cymru ac a fydd y ddogfen ganllawiau'n cael ei diweddaru yn awr?
O ganlyniad i delerau'r cytundeb ymadael a negodwyd gan yr UE a'r DU, yn amlwg, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys yn ystod y cyfnod pontio. Ond rydym yn edrych ymlaen at ddangos beth fydd ein blaenoriaethau o ran cysylltiadau yn y dyfodol, oherwydd, yn amlwg, bydd y DU yn gallu ymrwymo i gytundebau masnach rydd. Bydd gan y rhan fwyaf o'r rheini benodau ar gaffael wedi'u cynnwys ynddynt, felly mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweld beth y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn diogelu buddiannau Cymru. Y meysydd lle byddwn yn blaenoriaethu ein cyfraniadau i'r ddadl honno fydd datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, manteision cymunedol, yr economi sylfaenol, a'r economi gylchol hefyd. Felly, dyna'r meysydd yr hoffem eu gweld yn cael blaenoriaeth mewn unrhyw benodau caffael mewn cytundebau masnach rydd yn y dyfodol.