Twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:55, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu, mewn perthynas â'r strategaeth dwristiaeth, ei bod yn well cyfeirio'r cwestiwn at fy nghyd-Weinidog. Gwn fod rhywfaint o wariant cyfalaf ychwanegol eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd hwnnw'n creu rhai cyfleoedd. Ond yn sicr, o ran yr arena ddigidol a phrosiectau eraill yn yr ardal honno, un o'r pethau y byddwch yn ei weld yn y strategaeth ryngwladol yw rhestr yn yr atodiad o'r holl brosiectau magned rydym yn ceisio'u defnyddio fel dulliau o ddenu pobl i ardaloedd ar hyd a lled Cymru. Ac yn sicr, siaradais â chyngor Abertawe am yr hyn y byddent eisiau ei weld o ran y math o fagnedau a fyddai'n denu pobl i'r ardal ar gyfer buddsoddi ymhellach.