Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ymwneud â chodi hyder economaidd yn fy rhanbarth i a thu hwnt, ond law yn llaw â hynny, mae'r awdurdod lleol yn Abertawe yn ceisio adfywio canol y ddinas, gan gynnwys adeiladu arena ddigidol newydd yn Abertawe. Felly, gyda'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, mae hyn yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau mawr ar draws de Cymru, ond yn arbennig yn fy rhanbarth i. Felly, a allwch chi ddweud sut y bydd strategaeth dwristiaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf darpariaeth llety o ansawdd newydd ac wedi'i adnewyddu i ymwelwyr o fewn pellter hygyrch i'r arena newydd hon? Diolch.