Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 5 Chwefror 2020.
Weinidog, ein partneriaid masnachu mwyaf yw'r Almaen a Ffrainc, yn y drefn honno, ac i fod yn deg â Neil Hamilton, mae UDA yn drydydd. Roedd ein perfformiad allforio yn gadarn y llynedd, ac rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y gwaith a wnaeth yno; gwelsom fod ein hallforion wedi cynyddu bron i 5 y cant. Ond cafwyd gostyngiad yn yr allforion i'r Almaen, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn am y negeseuon rydym yn eu hanfon. Mae angen inni ddiogelu'r marchnadoedd Ewropeaidd hyn lle rydym yn aml yn allforio rhai o'n prif nwyddau, gyda phopeth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer swyddi sy'n talu'n dda ac ymchwil a datblygu ac yn y blaen.