Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir, ac roeddwn yn bryderus iawn pan welais y gostyngiad yn y ffigurau hynny, er ein bod, ar y cyfan, yn gwneud yn eithaf da o ran allforion. Ond roeddwn yn bryderus iawn o weld y gostyngiad yn ein hallforion i'r Almaen, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn ceisio denu'r Almaen i fod yn bartner rhyngwladol allweddol i ni. Dyna pam rydym wedi gwahodd y llysgennad yma, a bydd yn ymweld â de Cymru yn ogystal ag Airbus. Felly, rydym yn hynod ymwybodol fod y marchnadoedd hynny'n hanfodol i gynnal y 60 y cant hwnnw o fasnach gyda'r UE. Ond fel y dywedwch, mae'n rhaid i ni fod yn sensitif iawn yn y cyfnod anodd hwn lle mae llawer o bobl wedi colli hyder ac mae angen i ni adennill yr hyder hwnnw yn awr.