Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr iawn ichi. Dydy hi byth yn braf personoli materion fel hyn, ond mae'n amlwg bod hyder wedi cael ei golli ers tro yng ngallu Gary Doherty i sicrhau y math o gynnydd sydd ei angen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl pum mlynedd, bron, mewn mesurau arbennig. A dweud y gwir, mae yna ddigon o dystiolaeth dwi'n ei gweld mewn sawl maes fod pethau wedi bod yn mynd yn waeth yn ddiweddar, a rŵan mae'n rhaid i bethau gwella.