Ymadawiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:19, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiynau a’ch sylwadau. I ddechrau, hoffwn ateb y sylwadau a wnaed gennych am drefniadaeth y bwrdd iechyd. Credaf ei bod yn aml yn demtasiwn i ateb drwy awgrymu y byddai ad-drefnu'n sicrhau gwelliant mewn gwasanaethau, ac mae’n rhaid i unrhyw un sy'n dymuno arddel y ddadl honno—ac mae dadleuon i'w cael; nid dyma yw fy marn i—egluro sut y byddai'r sefydliad hwnnw'n gweithredu, pa mor gyflym y byddech yn dechrau gweld gwelliannau, a beth y byddech yn ei wneud ynglŷn â'r fframwaith. I ddychwelyd at dri sefydliad ar wahân, credaf y byddai gennych dri sefydliad eithaf bach, a hyd yn oed pe bai gennych ddau sefydliad yng ngogledd Cymru, byddai'n rhaid i chi benderfynu beth i'w wneud â chanol gogledd Cymru ac Ysbyty Glan Clwyd. Nid yw'r rhain yn gwestiynau syml i'w hateb, felly mae angen i unrhyw un sydd o blaid cael fframwaith hollol wahanol ac ôl troed hollol wahanol ystyried sut bethau fyddai'r rheini, a sut y byddent yn arwain at wella ansawdd a darpariaeth gofal, yn ogystal â’r trefniadau ymarferol, wrth gwrs, ar gyfer rhannu’r sefydliad. Nid wyf yn rhannu barn pobl eraill sy'n dweud na ellir rheoli’r bwrdd iechyd a'i bod yn amhosibl cael sefydliad sy'n gwneud cynnydd.

Gan droi at eich pum pwynt penodol, o ran secondiad, mae'n gwbl gyffredin yn ystod secondiadau i gyflogau gael eu talu gan y sefydliad secondio, yna daw'r gyflogaeth i ben, ond mae'r rhain yn faterion i'r bwrdd iechyd eu nodi a'u hegluro. Ni chredaf fod hynny'n anarferol.

Ac o ran y rhagolygon, mae’r dewisiadau hyn a wneir yn rhai ymarferol iawn. Pan fydd pobl yn gadael swyddi uwch arweinwyr, ceir dewisiadau ynglŷn â beth sydd er budd gorau'r sefydliad a gallu symud ymlaen, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dewis gallu symud ymlaen a dechrau'r broses o benodi prif weithredwr parhaol.

O ran trefniadau'r prif weithredwr dros dro, unwaith eto, mae hwn yn bwynt ymarferol. Mae Simon Dean wedi gweithio i'r bwrdd iechyd yn y gorffennol, a bryd hynny, fe lwyddodd i sefydlogi’r sefydliad. Mae'n ymwybodol nid yn unig o’r cyfnod hwnnw yno, ond mae ei rôl fel dirprwy brif weithredwr yn golygu bod ganddo ymwybyddiaeth a gwybodaeth am yr holl sefydliadau yng Nghymru. Mae ganddo brofiad sylweddol yn y gwasanaeth iechyd ehangach, ond ceir cryn dipyn o barch tuag ato hefyd ymhlith staff a rhanddeiliaid ehangach yng ngogledd Cymru. Mae'n bwynt ymarferol iawn, ac rydym am weld y bwrdd iechyd yn parhau i wneud cynnydd yn hytrach nag oedi am ba amser bynnag y byddai'n cymryd i recriwtio prif weithredwr newydd.

O ran y prif weithredwr yn y dyfodol, wrth gwrs, bydd sylwadau’n cael eu gwneud am y ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu yma yng Nghymru, ac yn benodol, yng ngogledd Cymru. Bydd angen iddynt gael cefnogaeth hefyd gan bobl o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol i gymryd camau i wella'r sefydliad. Felly, mae hynny'n golygu peidio â bod ofn gwneud dewisiadau am y dyfodol, er mwyn gallu cael sgwrs agored nid yn unig â'r tîm y byddant yn ei arwain yn y bwrdd iechyd, ond gyda'r cyhoedd ehangach a'u cynrychiolwyr etholedig. Rwy'n derbyn y bydd etholiad ymhen ychydig dros 15 mis, ond bydd angen darparu gofal iechyd yn y cyfamser, ac rwy'n disgwyl i bawb yn yr ystafell hon sydd â diddordeb yn nyfodol y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ymgysylltu'n agored ac yn uniongyrchol ar hynny. A bydd y prif weithredwr, pwy bynnag y bo, yn deall eu bod yn camu i mewn i amgylchedd lle mae etholiad ar y ffordd, ond lle mae angen gwelliant gwirioneddol hefyd yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu. Dyna y mae gan y staff a'r bobl eu hunain hawl i'w ddisgwyl a’i gael.

Ac ar berfformiad, rwyf wedi nodi'r disgwyliadau o ran perfformiad yn y fframwaith mesurau arbennig diwygiedig a gyhoeddais ym mis Tachwedd. Mae'n nodi meysydd diwygiedig i'r bwrdd iechyd wneud cynnydd arnynt er mwyn gallu symud ymlaen o fesurau arbennig, a thu hwnt i hynny hefyd. Credaf fod yn rhaid i'r prawf a osodwn ar gyfer y bwrdd iechyd fod yn un teg. Mae’n rhaid iddo fod: beth y mae'n rhaid i'r sefydliad hwn ei wneud a beth y mae angen iddo'i wneud i symud ymlaen o fesurau arbennig, yna beth arall y mae angen iddo'i wneud i gyrraedd y sefyllfa y byddai pob un ohonom yn gobeithio’i gweld, lle mae’n sefydliad gofal iechyd sy’n perfformio’n dda? Ac ni chredaf y byddai'n bosibl disgwyl iddynt symud o fesurau arbennig i'r ffrâm benodol honno mewn un naid.

O ran y pwynt ynglŷn ag unigolion a'r pwynt ynglŷn â chyfrifoldeb cyfunol, rwy'n cael cyfle rheolaidd i nodi fy rôl yn y system ac i ateb cwestiynau ar hynny, nid yn unig yn y wasg ond yn y Siambr hon a thu hwnt. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod gennyf gyfrifoldeb gwleidyddol, cyfrifoldeb gweinidogol am y gwasanaeth iechyd, ac mae hynny’n dod law yn llaw ag atebolrwydd amdano. Nid wyf yn ceisio ymyrryd mewn dewisiadau gweithredol, ond bob tro y bydd rhywbeth yn digwydd o fewn y gwasanaeth iechyd, mae'n gwbl bosibl y byddaf yn cael fy holi amdano a bydd disgwyl i mi roi ateb. Mae hynny'n rhan o’r gwaith ac nid wyf yn ymgilio rhag hynny, ond rwy'n edrych am arweinyddiaeth newydd i helpu i newid a phennu nid yn unig yr hyn y maent yn ei ddisgwyl o'r brig, ond sut y maent yn disgwyl i’r staff a thîm cyfan y bwrdd iechyd gyflawni'r gwelliannau diwylliannol a'r gwelliannau mewn perfformiad rwyf fi, fel y dywedaf, yn cydnabod y byddai pawb yn y Siambr hon a thu hwnt yn disgwyl eu gweld.