Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am roi cyfle i mi sôn am y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw? A gaf fi ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi'i gefnogi? Rwy'n falch o ddweud fod llawer iawn wedi rhoi eu cefnogaeth i drafod hyn heddiw. Rwy’n falch iawn fod fy Mil arfaethedig wedi cael cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol, yn wir. Credaf fod hyn yn dangos bod consensws gwleidyddol eang o blaid gwella'r rhwydwaith cerbydau trydan yng Nghymru yn gyflym.
Mae'n cyd-fynd â'r naratifau ehangach a fu'n dominyddu’r Cynulliad hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth gwrs, yr un fwy felly na datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ymgrynhoi'r egwyddorion rydym yn eu cefnogi ac yn eu hyrwyddo yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a byddai'n golygu ein bod yn llawer agosach at gyflawni ein rhwymedigaethau hinsawdd rhyngwladol. Cerbydau trydan yw'r dyfodol. Nid wyf yn amau hynny. Yn wir, ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd ceir petrol, diesel a hybrid newydd yn cael eu gwerthu o 2035 ymlaen, fan bellaf. Ac o gofio bod y targed hwnnw wedi'i ostwng erbyn hyn o 2040 i lawr i 2035, credaf fod 'fan bellaf' yn gyfyngiad diddorol.
Fel y nodwyd yn flaenorol yn y Siambr hon, mae nifer o rwystrau y mae'n rhaid eu goresgyn o hyd, megis gwelliannau mewn technoleg batri, y gallu i deithio’n bellach, gwefru cyflymach a thwf yn y dewis o fodelau sydd ar gael. Ond mae'r sector yn goresgyn y rhwystrau hyn ar gyflymder rhyfeddol. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Tesla y nifer uchaf erioed o werthiannau cerbydau trydan ac mae pris eu cyfranddaliadau wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'r diwydiant ceir ei hun yn paratoi am i 2020 fod yn flwyddyn arloesol i geir trydan, gan ragweld y bydd nifer y modelau yn ystafelloedd arddangos Prydain yn mwy na dyblu, a gwerthiant blynyddol ceir teithwyr di-allyriadau yn pasio'r 100,000 o bosibl. Mae hyn yn arwyddocaol iawn.
Ond yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, er bod Prydain yn gyffredinol ar drothwy chwyldro ceir trydan, nid yw pobl Cymru'n teimlo hynny eto i’r un graddau. Gymaint felly nes bod hyd yn oed The Guardian wedi adrodd ar y mater tua diwedd y llynedd. Yn ôl y ffigurau a ddyfynnwyd ganddynt, mae'r wyth sir yn y DU sydd â'r nifer leiaf o bwyntiau gwefru y pen i gyd yng Nghymru. Roedd Rhondda Cynon Taf ar waelod y tabl, gyda thri phwynt gwefru yn unig i bob 100,000 o drigolion; nid oedd Caerffili a Bro Morgannwg fawr gwell, gyda phedwar a phum pwynt i bob 100,000, yn y drefn honno. Nawr, mae dwy o'r ardaloedd cyngor hynny yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth De Cymru, felly rwy'n bendant yn awyddus i weld hyn yn gwella'n gyflym iawn.
Nawr, yn ôl yr arbenigwyr, diffyg pwyntiau gwefru ledled y wlad yw un o'r ffactorau pwysicaf sy’n atal nifer y bobl sy'n defnyddio cerbydau trydan. Felly, mae gyrwyr yn gohirio gwneud y newid hanfodol hwn. Dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth, ac mae fy nghynnig yn seiliedig arni’n fras. Byddai’n briodol i mi gydnabod, ar y pwynt hwn, fod y cynigion yn adeiladu ar sylfeini sydd eisoes wedi’u gosod gan Aelodau yn y Siambr hon, ac rwy’n cofio cynnig deddfwriaethol tebyg Rhun ap Iorwerth yn 2018, a gafodd gefnogaeth eang gan yr Aelodau hefyd, a phob plaid wleidyddol.
Yr hyn rwy’n ei gynnig, ac yn wir, yr hyn a gynigiodd Rhun yn 2018, yw deddfwriaeth a fydd yn gam ymlaen tuag at ddarparu’r seilwaith sylfaenol sydd ei angen arnom i wefru’r cerbydau trydan hyn er mwyn ei gwneud yn haws i bobl allu dewis defnyddio’r dechnoleg newydd hon. Felly, pam fod Llywodraeth Cymru mor segur yn y maes hwn mewn gwirionedd? Mae llawer o opsiynau ar gael i ni, ac mae angen i ni bwysleisio hyn. Gallem sicrhau bod Cymru yn arwain ym maes trafnidiaeth gynaliadwy ac ynni adnewyddadwy, a chredaf y dylai hynny fod yn uchelgais i ni.
Un o'r opsiynau hynny yw fy nghynnig i, er mwyn sicrhau bod pob cartref a adeiladir o'r newydd yn cael y seilwaith angenrheidiol er mwyn galluogi newid o'r fath yn y cerbydau a ddefnyddir. Mae'n un darn o'r pos. Un o atyniadau allweddol cerbyd trydan yw y gellir ei wefru ble bynnag y caiff ei barcio cyhyd â bod pwynt gwefru trydanol addas i’w gael yno. Bydd pobl am i hyn gael ei ddarparu mewn modd hygyrch ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd, p'un a ydynt yn mynd i'r archfarchnad, eu gweithle—yn wir, rwy'n falch iawn fod gennym rai pwyntiau gwefru ar ystâd y Cynulliad bellach—neu'r gampfa.
Mae fy neddfwriaeth yn sicrhau ein bod yn cysylltu'r dechnoleg hon â’r agwedd fwyaf cyffredin a sylfaenol ar ein bywyd bob dydd: ein cartref. Dyma ble y bydd mwyafrif helaeth y gwefru cerbydau trydan yn digwydd. Byddai gwefru gartref yn cynnig yr opsiwn mwyaf cyfleus, wrth gwrs, a bydd yn rhatach na defnyddio'r rhwydwaith cyhoeddus yn amlach na pheidio, yn enwedig wrth wefru dros nos a manteisio ar dariffau allfrig. O ystyried bod 98 y cant o deithiau yn y DU yn llai na 50 milltir o hyd, efallai na fydd angen o gwbl i lawer o yrwyr sydd â phwynt gwefru gartref ddefnyddio'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyhoeddus.
Credaf ei bod yn bryd gosod y dechnoleg hon yn ein tai newydd. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod pwynt gwefru yn costio oddeutu £976 y man parcio os caiff ei ddarparu gydag adeilad newydd neu adnewyddiad, o gymharu â mwy na £2,000 i’w ôl-osod. Felly, yn amlwg, mae angen inni fwrw ymlaen â hyn a helpu ein trigolion i wneud y dewis gwych hwn. Diolch.