Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn, ond rwy'n cydnabod nad yw’r angen am bwyntiau gwefru ceir trydan mewn adeiladau preswyl ond yn rhan o'r seilwaith ehangach sydd ei angen.
Cadeiriais y sesiwn gyntaf ym mhrif seminar Fforwm Polisi Cymru ym mis Rhagfyr ar bolisi ynni yng Nghymru a hwyluso'r newid i economi carbon isel— blaenoriaethau ar gyfer torri allyriadau, seilwaith a buddsoddiad, a chefnogi'r economi. Fel y dywedais yno, mae'r gallu i storio llawer iawn o ynni yn hanfodol i ynni adnewyddadwy, oherwydd nid yw heulwen a gwynt yn ymddangos ar adegau cyfleus pan fydd angen trydan ar bobl, ond os daw ceir a cherbydau trydan i gymryd lle'r holl geir a cherbydau cyhoeddus confensiynol, byddai cyflenwad y byd o lithiwm, sy'n cael ei ddefnyddio mewn batris, yn dod i ben o fewn oddeutu pum degawd. Nodais hefyd fod yna waith ymchwil yn mynd rhagddo yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar fatris ynni adnewyddadwy amgen, ond nid ydynt yn barod ar gyfer y farchnad eto.
Clywsom hefyd gan y panel arbenigol ein bod yn gweld tystiolaeth fod y newid i gerbydau trydan a mathau eraill o gerbydau allyriadau isel wedi dechrau, ond mae’n digwydd yn llawer arafach yng Nghymru na gweddill y DU, a chaiff ei fesur yn ôl y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan a'r ddarpariaeth o seilwaith pwyntiau gwefru.
Clywsom fod rhestr hir o bethau y gallai ac y dylai sefydliadau sector cyhoeddus eu gwneud, gan gynnwys hwyluso rhwydwaith o bwyntiau gwefru ac arwain trwy esiampl, trwy annog mabwysiadu cerbydau trydan yn fflydoedd y sector cyhoeddus a'u cadwyni cyflenwi, gan ddefnyddio'u dylanwad trwy gaffael. Clywsom ei bod yn gwbl hanfodol fod digon o bwyntiau gwefru ar gael yn y lleoliadau cywir i roi hyder i fflydoedd ac unigolion fynd allan a buddsoddi mewn cerbyd trydan, ac y gall y sector cyhoeddus arwain trwy esiampl, fel y nodais.
Mae fy mab-yng-nghyfraith wedi cymhwyso fel gosodwr mannau gwefru cerbydau trydan, ac yn ddiweddar cyfarfûm â busnesau yn Sir y Fflint sy'n darparu hyfforddiant ac yn eu gosod. Mae pob un yn aros i’r argae chwalu, ond eto dangosodd ystadegau Adran Drafnidiaeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr mai dim ond 60 o fannau gwefru cyflym sydd ar gael yn gyhoeddus ledled Cymru, heb un o gwbl, yn ôl yr hyn a ddywedant, yng Ngwynedd, Conwy, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent neu Dorfaen, a dim ond 1.8 am bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, o'i gymharu â 3.6 yn Lloegr a 7.5 yn yr Alban.
Yn ei ddatganiad diweddar ar fetro gogledd Cymru, cyfeiriodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y safle parcio a theithio newydd a llwybrau teithio llesol ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy—pethau da; fodd bynnag, deallaf mai dim ond dau fan gwefru dwbl sy'n cael eu gosod ar gyfer 240 o leoedd parcio yn y maes parcio a theithio, a bod hyn hyd yn oed wedi galw am ymyrraeth ar ran y cyngor. Mae'n rhaid inni wneud yn well.