Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwyf innau hefyd yn cefnogi cynnig deddfwriaethol David Melding. Fel Rhun ap Iorwerth, rwy'n ymgyrchydd yn y maes hwn. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o ddatganiad newid hinsawdd Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, cyfeiriodd David Melding at gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe ei bod am gael gwared ar geir petrol a diesel ar gam cynharach o lawer. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gyflymu gweithgarwch yn y maes hwn er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y newid sydd o'n blaenau.
Dyna pam y gwnaeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau waith ar hyn y llynedd, ac aethom ati i gynnal ein hymchwiliad mewn ffordd wahanol iawn mewn gwirionedd. Fe ddechreuasom yn y ffordd arferol, drwy gasglu tystiolaeth, ond yr hyn a wnaethom wedyn oedd penderfynu cyhoeddi ein hadroddiad drafft, a gwnaethom hynny am fod hwn yn faes polisi sy’n newid mor gyflym. Felly roeddem eisiau'r mewnbwn pellach hwnnw, ac ar ôl i ni ei gael fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad terfynol. Hefyd, rhoesom sylw i'r gwaith a wnaeth Rhun ap Iorwerth, oherwydd roedd hwnnw'n cyd-fynd fwy neu lai â'n hadroddiad.
Mae gan 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' bolisi newydd ar gerbydau allyriadau isel iawn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau amhreswyl gael pwyntiau gwefru wrth o leiaf 10 y cant o'r lleoedd parcio sydd ar gael. Ond roedd ein hadroddiad yn argymell mynd ymhellach na hyn, a dywedasom y dylid ei ymestyn i gynnwys datblygiadau preswyl, ac y dylid ystyried codi canran y lleoedd parcio â phwyntiau gwefru wrth i gerbydau trydan ddod yn fwy cyffredin. Felly o ganlyniad i hynny roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn ac wedi nodi bod symud tuag at bwyntiau gwefru mewn datblygiadau amhreswyl—ac rwy'n dyfynnu yma— wedi’i fwriadu i fod yn fesur dros dro yn lle mesur mwy cynhwysfawr i'w gyflwyno drwy'r Rheoliadau Adeiladu.
Felly galwodd adroddiad ein pwyllgor am weithredu ar frys ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno strategaeth newydd ar wefru cerbydau trydan, a bydd ei gynnwys yn bwysig iawn.
Clywsom am ymyrraeth y farchnad, a bydd y farchnad yn ymyrryd yn y maes hwn, ond mae'n sefyllfa iâr ac wy. Mae angen i'r Llywodraeth gamu i'r adwy i dorri'r cylch hwnnw, a dyna pam rwy'n gefnogol iawn i'r cynigion a gyflwynwyd gan David Melding heddiw a byddaf yn cefnogi ei gynnig deddfwriaethol.