1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.
2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gwelliannau a wnaed i'r gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OAQ55089
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae GIG Cymru wedi trin mwy o gleifion, yn fwy llwyddiannus, nag ar unrhyw adeg yn ei hanes o 70 mlynedd. Y nifer uchaf erioed o staff a'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yw'r sail i'r gwelliannau hyn.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl deg eu barn yn dweud bod hwnna'n ateb rhannol iawn i'r cwestiwn. Y gwir yw bod perfformiad yn y gwasanaeth iechyd, mewn sawl ystyr, wedi gwaethygu'n sylweddol iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O ran Betsi Cadwaladr, mae traean o gleifion yn aros dros bedair awr am ddamweiniau ac achosion brys erbyn hyn, o'i gymharu â dim ond 20 y cant bedair blynedd yn ôl; mae 22,000 o gleifion wedi cael eu gadael yn y system atgyfeirio-i-driniaeth dros 36 wythnos ar sail ffigurau diweddar, o'i gymharu â dim ond 15,000 chwe blynedd yn ôl; a cheir llawer o fethiannau eraill y tynnwyd sylw atyn nhw yn rheolaidd yn y Siambr hon.
Yr hyn sydd wedi digwydd yn y fan yma yw ein bod ni wedi normaleiddio methiant yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Nid bai'r rhai sy'n gweithio yn y system yw hyn; mae'n fethiant rheoli a rheolaeth wleidyddol. O gofio bod iechyd yn llyncu dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, nid dim ond methiant ei Lywodraeth ef sydd dan sylw yn y fan yma, ond mewn gwirionedd—ym meddyliau nifer gynyddol o bobl—methiant datganoli ei hun. A oes unrhyw ryfedd, felly, bod 25 y cant o bobl Cymru wedi dweud mewn arolwg diweddar eu bod nhw'n credu y dylid diddymu'r lle hwn? Felly, dyna, efallai, fydd ei feddargraff ef.
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn ailadrodd yr wythnos hon yr hyn a ddywedodd yr wythnos diwethaf. Ailadroddaf innau fy nghyngor iddo bryd hynny: mae'n pregethu wrthym pryd bynnag y caiff y cyfle ar barchu'r refferendwm o 2016, ond mae dau refferendwm wedi sefydlu'r sefydliad hwn. Ar y ddau achlysur, penderfynodd pobl Cymru sefydlu Senedd i Gymru ac, ar yr ail achlysur, i gryfhau'n sylweddol y pwerau a gaiff eu gweithredu yn y fan yma. Dyna farn pobl Cymru ar ddatganoli, a dyna pam yr ydym ni'n cyfarfod yn y fan yma i ddilyn eu cyfarwyddiadau.
O ran yr hyn y byddai pobl deg eu barn yn ei ddweud am y gwasanaeth iechyd—nid wyf i'n gwybod a oedd yn gobeithio ein perswadio ni y byddai ef ei hun yn cael ei gynnwys yn y diffiniad hwnnw—gadewch i mi ddweud wrtho fod arolwg boddhad y llynedd o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, na chynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ond a gynhaliwyd yn gwbl annibynnol, wedi canfod bod 93 y cant o bobl Cymru yn fodlon gyda'r gwasanaeth a gawsant mewn gofal sylfaenol a bod 93 y cant yn fodlon gyda'r gwasanaeth a gawsant pan wnaethon nhw ymweld ag ysbyty ddiwethaf. Dyna'r hyn y mae pobl deg eu barn yn ei feddwl yng Nghymru.
Nodwyd prinder meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys fel y prif reswm pam mae bwrdd iechyd Cwm Taf yn cynnig torri ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, ac mae'r prinder yn rhan o duedd yn y DU, o'r hyn a ddywedir wrthym ni. Mae'n ymddangos bod goblygiadau canoli, fel amseroedd teithio hwy, lefelau uchel o afiechyd, neu orlenwi mewn ysbytai eraill yn ystyriaethau eilaidd.
Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ofyn i chi am ffigurau sydd ar gael yn gyhoeddus sy'n dangos nifer y meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys ar draws y gwahanol fyrddau iechyd ers 2013, y flwyddyn cyn i'r penderfyniadau gael eu gwneud yn rhan o raglen de Cymru. Mae'r ffigurau yn dangos bod tri bwrdd iechyd wedi cynyddu nifer y meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys yn sylweddol rhwng 2013 a 2018. Ychwanegodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan draean yn fwy o feddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys. Cynyddodd Caerdydd a'r Fro nifer eu meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys gan fwy na 50 y cant. Nid oes gan yr un o'r ddau fwrdd iechyd uned damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol sydd o dan fygythiad.
Onid yw hyn yn dangos bod rhaglen de Cymru a gefnogwyd gan Lywodraeth Lafur yn broffwydoliaeth hunangyflawnol? Mae'r rhaglen honno wedi gweithredu fel rhwystr o ran recriwtio ac mae'n esbonio pam yr ydych chi a'r bwrdd iechyd wedi methu â llenwi swyddi meddygon ymgynghorol gwag yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. O ystyried y methiannau hynny, a wnewch chi ymrwymo nawr fel Prif Weinidog ac arweinydd y Llywodraeth Lafur hon y bydd gwasanaethau 24 awr dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn cael eu cadw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? Gallwch chi roi'r ymrwymiad hwnnw a gallwch chi roi dyfodol i'n hadran damweiniau ac achosion brys. A wnewch chi hynny nawr?
Wel, Llywydd, yr hyn y mae'r ffigurau a ddyfynnwyd gan Leanne Wood yn ei ddangos yw bod hwn yn weithlu symudol mewn proffesiwn lle ceir prinder lle mae pobl sy'n gallu bod yn feddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys eu hunain yn gwneud penderfyniadau ynghylch ble maen nhw'n mynd i weithio. Nid oes neb, nid hi na minnau, mewn sefyllfa i gyfarwyddo pobl i gymryd swyddi. Mae pobl yn gwneud cais a nhw sy'n penderfynu. Fel yr ydych chi wedi gweld, mae pobl yn gwneud hynny. Dyna natur y ffordd y caiff pobl eu recriwtio mewn proffesiwn lle ceir prinder. [Torri ar draws.]
Byddai'n helpu'n fawr, rwy'n credu, pe byddai Aelodau yn fodlon gwrando ar yr ateb yn hytrach na gweiddi ar ei draws drwy'r amser. Dyna dri aelod ar feinciau Plaid Cymru sydd wedi ceisio torri ar fy nhraws i yn ystod yr un ateb hwn.
Felly, ceir gweithlu symudol ac mae pobl yn mynd i swyddi y maen nhw'n penderfynu ymgeisio amdanyn nhw. Roedd rhaglen de Cymru, y cyfeiriodd Leanne Wood ati, yn rhaglen enfawr dan arweiniad clinigol a gefnogwyd gan fyrddau iechyd a chlinigwyr ledled de Cymru gyfan. Nid oedd yn rhaglen dan arweiniad y Llywodraeth; roedd yn rhaglen a arweiniwyd gan feddygon a chlinigwyr yn y gwasanaeth iechyd. A'r ateb, yn sefyllfa Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn y pen draw—pan fydd clinigwyr wedi cael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw, pan fyddan nhw wedi ateb y cwestiynau y mae angen iddyn nhw eu hateb—yw bod hwnnw yn benderfyniad y mae meddygon yn y sefyllfa orau i'w wneud, ac nad yw'n benderfyniad i'w wneud gan wleidyddion.
Prif Weinidog, mae'r gwaith wedi hen ddechrau erbyn hyn ar ganolfan gofal iechyd sylfaenol newydd gwerth £4 miliwn yn Aberpennar, ac mae hyn yn newyddion gwych i'r gymuned leol, gan ddod ag amrywiaeth o wasanaethau at ei gilydd a disodli'r cyfleusterau meddygon teulu presennol a oedd wedi dyddio ac, a dweud y gwir, ddim yn addas i'w diben. Ym mha ffyrdd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo i helpu i sicrhau gwelliannau i ofal iechyd sylfaenol yng Nghwm Cynon?
Diolchaf i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Cefais wybod ychydig ddyddiau yn ôl, gan arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, am y cyffro y mae'r ganolfan iechyd newydd gwerth £4 miliwn yn ei greu yn Aberpennar, un o 19 o ganolfannau gofal sylfaenol newydd y mae'r Llywodraeth hon yn eu hariannu yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Bydd yn dod â meddygfeydd teulu presennol at ei gilydd mewn cyfleuster newydd a fydd, yn ogystal â darparu gwell cyfleusterau i staff presennol, yn caniatáu i'r ganolfan honno ddenu'r amrywiaeth ehangach honno o weithwyr proffesiynol clinigol yr ydym ni'n gwybod sydd ei hangen i barhau i gynnal gofal sylfaenol ar draws Cymru gyfan. Bydd yn dîm amlddisgyblaethol yng nghanolfan gofal sylfaenol newydd Aberpennar, a bydd hynny'n sicrhau y bydd gwasanaethau i bobl yn y gymuned honno yn ddiogel ac yn gynaliadwy am flynyddoedd i ddod.