Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 12 Chwefror 2020.
Wel, Siân, rydych yn llygad eich lle: mae recriwtio mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg yn rhan hanfodol o'n nod i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r gofyniad i ddarparwyr hyfforddiant athrawon weithio tuag at hyfforddi 30 y cant o athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfarwyddyd pwysig iddynt, a Chyngor y Gweithlu Addysg, o ran ein bwriad i allu sicrhau bod gennym y staff iawn i ymateb i'r targed hwnnw, ond hefyd i ymateb i rieni Cymru, sy'n fwyfwy awyddus i ddewis addysg Gymraeg i'w plant, ac i ymateb yn gadarnhaol i hynny. Nid hon yw'r unig fenter, fel y nodais, ond rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod iddi, ac yn wir, yr amrywiol sylwadau cefnogol gan Gymdeithas yr Iaith, er enghraifft, fel arwydd pwysig o fwriad y Llywodraeth hon yn hyn o beth.