Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, a dwi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith yna, achos yr athrawon ydy'r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni yn ein hysgolion, wrth gwrs.
O gofio'r strategaeth miliwn o siaradwyr, a phwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i lwyddiant y nod hwnnw, mae recriwtio athrawon sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bryder penodol, onid ydy? Mae ystadegau'r bwletin ystadegol yn dangos mai dim ond 17.5 y cant o'r myfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf addysg gychwynnol athrawon yn 2017-18 oedd yn hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, efo'r niferoedd yn weddol gyfartal rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd, yn digwydd bod.
Felly, dwi'n croesawu'n fawr yr hyn roeddwn yn ei ddarllen yn y wasg yr wythnos diwethaf, sef ei bod hi'n fwriad gennych chi a gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod partneriaid yn gweithio tuag at sicrhau y dylai 30 y cant o'r rhai sy'n cael eu recriwtio i bob rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon fod yn athrawon fydd yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, prynhawn yma, hoffwn i jest gael ychydig bach mwy o wybodaeth am y polisi yma. Wnewch chi ymhelaethu ar eich rhesymau chi dros osod y targed, a pham ydych chi'n ystyried bod gosod y targed yma'n ffordd effeithiol o gynyddu sgiliau Cymraeg o fewn y gweithlu addysg?