Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch am eich ateb. [Chwerthin.] Roedd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yn eich beio chi, nid ni.
Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi adroddiad cynnydd ar y grant o £36 miliwn a ddarparwyd i leihau maint dosbarthiadau babanod yng Nghymru. O dan y cynllun, darperir cyllid ar gyfer staff ysgol newydd neu ystafelloedd ysgol ychwanegol ar gyfer disgyblion rhwng pedair a saith oed. Fodd bynnag, dywed y rhan fwyaf o ysgolion a benododd athrawon i dorri maint dosbarthiadau babanod na fyddant yn gallu eu cadw pan ddaw'r grant hwn i ben. O ystyried bod lleihau maint dosbarthiadau, yn eich geiriau chi,
'yn elfen allweddol o genhadaeth ein cenedl i godi safonau a chreu cyfleoedd i’n holl bobl ifanc', sut rydych yn bwriadu lleihau maint dosbarthiadau yng Nghymru ymhellach yn awr?