Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 12 Chwefror 2020.
Yn gyntaf oll, Lywydd, nid oes arnaf eisiau diolch gan yr Aelod am ateb ei gwestiwn; yr hyn a fyddai’n fwy defnyddiol i mi yw pe bai’n gwneud rhywbeth yn ei gylch ac yn cael sgwrs gyda’i gymheiriaid yn San Steffan.
O ran y gronfa lleihau maint dosbarthiadau rydym wedi'i darparu i ysgolion, rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod y gall maint dosbarthiadau bach, yn gyntaf oll, fod o fudd mawr i athrawon a phlant. Mae'n llygad ei le: yn yr adroddiad, mae athrawon wedi mynegi eu pryder ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd pan ddaw'r grant hwnnw i ben. Mae'r grant yn ddiogel tan ddiwedd sesiwn y Senedd hon. Mater i'r Senedd newydd fydd edrych ar y dystiolaeth a gwrando ar athrawon a rhieni am bwysigrwydd y grant hwnnw, a buaswn yn gobeithio'i weld yn parhau.