1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 12 Chwefror 2020.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu perthynas mewn ysgolion? OAQ55087
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yn cael addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel. Dyna pam y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhan orfodol o'n cwricwlwm newydd.
Mae'r Gweinidog yn frwd ei chefnogaeth i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac mae erthygl 2 o brotocol 1 yn dweud, os yw'r wladwriaeth yn arfer unrhyw swyddogaethau mewn perthynas ag addysg ac addysgu, y bydd yn
'parchu hawl rhieni i sicrhau addysg ac addysgu o'r fath yn unol â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol eu hunain.'
Mae'r hyn y mae newydd ei ddweud, wrth gwrs, yn chwalu’r protocol hwnnw. Mae hyn yn rhan o duedd Llywodraeth Cymru o anwybyddu hawliau rhieni a phobl gyffredin. Gwelsom hyn mewn perthynas â'r gwaharddiad ar smacio hefyd; roedd canlyniadau arolygon barn ac ymgynghori yn llethol yn erbyn cyfyngu ar rôl rhieni wrth fagu eu plant eu hunain. Felly, a yw'r Gweinidog yn dweud wrthyf mai un o fanteision mawr datganoli yw y gellir anwybyddu barn pobl yn fwy lleol yng Nghaerdydd, yn hytrach nag yn Llundain?
Lywydd, mae'r Aelod yn iawn: mae hwn yn fater sy’n ymwneud â hawliau. Mae'n ymwneud â hawliau plant, ac mae gan bob plentyn hawl i gael addysg a fydd yn eu cadw'n ddiogel rhag niwed, a fydd yn eu hamddiffyn ac yn darparu'r wybodaeth a’r sgiliau y maent eu hangen i ddod yn unigolion iach, hyderus. Ac mae'r agwedd honno at hawliau plant yn ganolog i fy mhenderfyniad.
Rydym newydd glywed gan Aelod arall am bwysigrwydd rheolaeth orfodol a sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gwybod beth ydyw, a beth i'w wneud os yw'n digwydd iddynt hwy. Enghreifftiau fel hynny sy'n golygu bod rhaid inni sicrhau bod gan bob plentyn hawl i gael y gwersi hyn wrth symud ymlaen.
Weinidog, heblaw am yr ystodau oedran statudol a nodir mewn perthynas â phump i 16 oed a'r gwahanol oedrannau y bydd plant yn cael addysg rhyw, addysg cydberthynas, rwy'n credu eich bod wedi eich cofnodi'n dweud o'r blaen y rhoddir rhywfaint o sylw i bwynt datblygiadol plant o fewn y cylch hwnnw. Felly, efallai fod yna ffordd, neu gyfaddawd yma hefyd, lle rydych chi ar y naill law yn darparu'r addysg y credwch chi fod ganddynt hawl iddi i blant, ond ar yr un pryd, fod barn rhieni a phwynt datblygiadol plentyn unigol hefyd yn cael eu hystyried i sicrhau nad yw plant yn cael addysg sy'n amhriodol iddynt, ar adeg benodol.
Rwyf eisiau sicrhau'r Aelod ein bod yn rhoi llawer o sylw i ba mor addas i oedran plant yw gwersi yn y rhan hon o'r cwricwlwm. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwersi hyn yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n briodol i oedran a datblygiad plant. Rwy'n cydnabod y gallai fod rhywfaint o nerfusrwydd, pryderon a sensitifrwydd yn hyn o beth. Dyna pam, wrth inni symud tuag at weithredu'r cwricwlwm newydd, rwyf wedi sefydlu grŵp cynnwys sydd â chynrychiolwyr rhieni yn aelodau ohono. Cyfarfu’r grŵp hwnnw am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf a bydd yn gyfrwng gwerthfawr iawn inni allu parhau i weithio gyda rhai sydd â diddordeb wrth inni ddatblygu arweiniad a chynnwys yn y maes hwn, i dawelu meddwl rhieni fod y pethau rydym yn argymell y dylai plant ddysgu amdanynt yn briodol i'w hoedran ac yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n sensitif ac sy'n parchu’r ffaith bod plant yn cyrraedd lefelau aeddfedrwydd ar wahanol adegau.