Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 12 Chwefror 2020.
Mae'n ofynnol i ysgolion amddiffyn disgyblion rhag radicaleiddio ac eithafiaeth fel rhan o'u dyletswyddau diogelu. Dywedodd adroddiad Estyn yn ddiweddar fod gan y mwyafrif o ysgolion ddealltwriaeth o’u rôl a’u cyfrifoldebau yn hyn o beth; fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr o'r farn fod radicaleiddio ac eithafiaeth yn berthnasol i'w hysgolion neu'r ardaloedd cyfagos. Aethant yn eu blaenau i ddweud y gallai staff yn yr ysgolion hyn golli cyfle i nodi a mynd i'r afael â phryderon cynnar am ddisgybl. Weinidog, pa gamau a gymerwch, yng ngoleuni canfyddiad Estyn, i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau i amddiffyn disgyblion rhag radicaleiddio ac eithafiaeth yng Nghymru?