Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:34, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs rwyf wedi'i chynnig gyda swyddogion yn y gwasanaeth iechyd i gynnwys y mater penodol hwn ynghylch cyflenwad llaeth cynnar hefyd. Ac rwy'n credu bod yna rywbeth am—. Croeso i'r Aelod ddewis a hoffai ysgrifennu ataf yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd ei phlaid, neu yn rhinwedd ei rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Rwy'n hapus i ymgysylltu y naill ffordd neu'r llall, ond buaswn eisiau gallu rhannu gwybodaeth, oherwydd gwn fod gan Aelodau eraill yn y lle hwn, ar draws y pleidiau, ddiddordeb yn y mater hefyd.