Lefelau Staffio

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol? OAQ55071

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:51, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Dylai nifer a sgiliau timau iechyd a gofal cymunedol amlbroffesiynol gael eu pennu yn ôl angen y boblogaeth leol. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio timau amlbroffesiynol wedi'u trefnu o amgylch cymunedau lleol a darparu gofal a chymorth cydgysylltiedig.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, dywedodd Phil Banfield o Gymdeithas Feddygol Prydain ei bod yn amlwg fod y datblygiadau diweddaraf yn gwaethygu, ac nid yn gwella. Gorffennodd ei sylwadau drwy ddweud, os na roddir sylw difrifol i'r mater, fod  perygl gwirioneddol y bydd bywydau'n cael eu colli'n ddiangen.

Rhwng y ddau ddatganiad, dywedodd mai'r hyn sy'n bwysig yw bod gwelyau ychwanegol yn cael eu darparu mewn ysbytai, fod mwy o staff yn cael eu rhoi ar y rheng flaen yn y gymuned i leddfu'r pwysau, ac yn ogystal, fod arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r gwasanaeth iechyd drwy broses y gyllideb.

Nawr, gwyddom fod arian ychwanegol wedi'i ddarparu i'r gwasanaeth iechyd drwy broses y gyllideb. Pa ymrwymiad y gallwch ei roi yng ngoleuni'r sylwadau hyn gan Gymdeithas Feddygol Prydain am staff ychwanegol ac yn bwysig, am welyau ychwanegol yn ein hysbytai, fel nad yw 'bywydau'n cael eu colli'n ddiangen', fel y dywedodd?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:52, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu bod her ynglŷn â lle mae gofod a chapasiti'n cael eu creu yn ein system. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid i'r gwelyau fod mewn ysbyty. Os edrychwch chi, er enghraifft, ar gapasiti'r gaeaf, mae wedi cael ei gynyddu; mae gwelyau cyfatebol mewn gofal cymdeithasol. Gwyddom fod rhan fawr o'r pwysau sydd wrth ddrws blaen adrannau damweiniau ac achosion brys ein hysbytai dosbarth cyffredinol yn deillio o'r anallu i gael pobl allan o'r ysbyty ac i'w cartref eu hunain, neu i wely gofal mwy dwys/llai dwys gwahanol.

Rydym wedi colli capasiti mewn gofal cartref, sy'n helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain. Rydym hefyd yn wynebu her go iawn gyda'r sector annibynnol, sy'n darparu'r rhan fwyaf o'n gofal preswyl hefyd. Felly, mewn gwirionedd, bydd cael mwy o sefydlogrwydd yn y rhan honno o'n system gofal yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gwasanaeth iechyd.

Ond rydym eisoes yn gweithredu ystod o fesurau mewn perthynas â chyfleusterau cymunedol: y buddsoddiad ychwanegol rydym yn ei wneud ym maes nyrsys ardal, bu cynnydd canrannol sylweddol a pharhaus dros y chwe blynedd diwethaf; yr arian ychwanegol rydym yn ei roi tuag at hyfforddiant ymarfer cyffredinol; a'r arian ychwanegol rydym yn ei roi tuag at hyfforddiant fferyllol hefyd.

Rwy'n derbyn nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, ond roedd Dr Lloyd, sydd bellach wedi gadael yr ystafell, yn cynnal cyfarfod heddiw ar gyfer lansio achlysur ar weithio amlddisgyblaethol mewn lleoliadau ymarfer cyffredinol, a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac adroddiad a gymeradwywyd gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a'r Coleg Nyrsio Brenhinol.

Felly, gallwch weld rhai o'r dulliau rydym yn eu mabwysiadu eisoes mewn gwahanol rannau o'r wlad. Fe fyddwch yn parhau i weld y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud mewn adnoddau staff yn y dyfodol, fel bod mwy o bobl yn gallu derbyn gofal yn nes at adref, ac yn yr un modd, fel ein bod yn cael mwy o bobl allan o'r ysbyty pan nad yw'n lleoliad priodol i'r gofal ddigwydd mwyach, a'u bod yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu cartref eu hunain mewn gwely, boed hynny mewn gofal preswyl neu yn eu cartref eu hunain mewn tref neu bentref yng ngweddill y wlad.