Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 12 Chwefror 2020.
Rwy'n cytuno â chi y dylid gwrando ar y cyhoedd. Mae'n drueni mawr na wrandawyd ar y 60,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar raglen de Cymru yn ôl yn 2014.
Weinidog, gallaf ddatgelu, y prynhawn yma, fod y mwyafrif llethol o'r meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi cytuno yn ystod y ddwy awr ddiwethaf, mewn cyfarfod, y dylid parhau i ddarparu gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Nawr, rydych chi a'r Prif Weinidog wedi dweud bod angen i'r penderfyniad hwn gael ei arwain gan feddygon. Yng ngoleuni barn y meddygon hynny, a wnewch chi ymrwymo yn awr i adfer yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwarantu ei dyfodol hirdymor?