Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:40, 12 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi egluro yn y datganiad a wnaethant ddoe nad oes ganddynt ateb terfynol i'r hyn a ddylai ddigwydd. Fodd bynnag, mae ganddynt her anochel ynghylch diogelwch y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, a hynny am fod y meddyg ymgynghorol parhaol olaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gadael ar ddiwedd mis Mawrth. Nawr, ni allwch anwybyddu realiti'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ddiogelwch y gwasanaeth yn y dyfodol. Ac i'r holl bobl sydd, yn ddealladwy—yn y Siambr hon a thu allan—eisiau gweld adran ddamweiniau ac achosion brys 24 awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rhaid gosod hynny yn erbyn realiti eu gallu neu eu hanallu i recriwtio staff i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n ddiogel ac yn effeithiol—