Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 12 Chwefror 2020.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Credaf mai un pwynt pwysig i'w wneud ar ddechrau'r ddadl hon yw nad oes unrhyw un—yn sicr neb yn y Siambr hon—yn gwadu bod angen i'r GIG newid a newid mewn ffordd drawsnewidiol sy'n sicrhau ei fod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid yr ugeinfed ganrif yn unig, fel y cafodd ei gynllunio ar ei chyfer yn wreiddiol. Y math o newid sydd dan sylw, wrth gwrs. A yw'r newid hwnnw'n flaengar? Ac yn bwysicaf oll, a yw'n mynd â’r cyhoedd gydag ef? Yn rhy aml, gwelwn nad ydyw.
Mae pwynt 1 yn ein cynnig yn tynnu sylw at bryderon cleifion a chlinigwyr ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau brys y GIG. Mae'r dadleuon yn erbyn israddio gwasanaethau yng nghefn gwlad Cymru yn gyfarwydd. Trafodir Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro yn aml yn y Siambr hon; heddiw, cawn drafodaeth ynglŷn ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae colli gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys pediatreg a damweiniau ac achosion brys, yn golygu bod yn rhaid i gleifion deithio pellteroedd llawer mwy i gael eu triniaeth.
Nawr, rwy'n gwybod o'r ddadl hon a chwestiynau yn gynharach, ac yn wir, o ddadleuon blaenorol y mae'r Gweinidog iechyd wedi cymryd rhan ynddynt, y bydd yn dadlau mai ansawdd y gofal iechyd a gynigir sy'n bwysig, a'i gynaliadwyedd yn y tymor hir, ei ddiogelwch, nid y pellter a deithiwyd i'w gael. Ond y pwynt yw ei bod hi'n amlwg nad yw'r cyhoedd wedi eu darbwyllo ynglŷn â hyn ac nad ydynt wedi'u perswadio gan y ddadl yn y ffordd y dylent. Felly, mae rhywbeth yn amlwg yn mynd o'i le gyda'r cynigion sydd ger ein bron a ffordd y Llywodraeth o ymgynghori.
Nawr, a bod yn deg â Llywodraeth Cymru, nid yw'n ddarlun tywyll ym mhob man yng Nghymru. Mae ad-drefnu gwasanaethau yn fy ardal i, yn ne-ddwyrain Cymru, o ganlyniad, yn bennaf, i'r rhaglen Dyfodol Clinigol Gwent, y gwn fod Lynne Neagle, yr Aelod dros Dorfaen, wedi bod yn rhan ohoni gyda mi dros y blynyddoedd hefyd, ar y cyfan, wedi cael cefnogaeth y bobl leol. Fodd bynnag, cafwyd pryderon yn ddiweddar ynghylch symud gwasanaethau, yn enwedig yr adran damweiniau ac achosion brys o Ysbyty Nevill Hall i ysbyty athrofaol newydd y Grange yng Nghwmbrân. Mae moeswers i’w chael yma—fod pobl yn cefnogi newid, ond fesul tipyn yn unig, ac mae'n rhaid ei werthu iddynt, mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r newid hwnnw, ymwneud ag ef, mynegi barn arno a'i weithredu.
Mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn fater sensitif iawn, un o'r elfennau mwyaf sensitif yn y gwasanaeth iechyd o bosibl. Mae cleifion allanol yn dymuno cael sicrwydd y bydd y gwasanaethau hynny ar gael lle a phan fo'u hangen arnynt. Y term 'uned mân anafiadau'—a chredaf mai Mick Antoniw yn ei araith ragorol a soniodd am unedau mân anafiadau—er ei fod yn gweithio'n dda ar bapur o bosibl, pan fydd pobl yn cynllunio trefn a rhaniad gwasanaethau newydd, y peth trist yw, pan fyddwch chi allan ar lawr gwlad yn siarad â phobl, nid yw'r term 'uned mân anafiadau' yn gwneud y tro. Nid yw'n gwneud y tro gyda'r cleifion ac nid yw'n gwneud y tro gyda'r clinigwyr. Nid yw'n cymryd lle uned damweiniau ac achosion brys, yn sicr nid yn yr un modd â'r hyn rydym wedi arfer ag ef yn flaenorol.
Fel y dywedaf, mae'r ad-drefnu yng Ngwent wedi'i chefnogi a'i derbyn i raddau helaeth, ond yn sicr, nid yw hynny'n wir mewn rhannau eraill o Gymru—nid yn Hywel Dda yn sicr. Mae'r cynigion i ddod â gwasanaethau 24 awr dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Morgannwg Brenhinol i ben, wrth gwrs, wedi achosi cryn bryder ac mae'r rheini wedi'u nodi yn y ddadl hon. Mae dewisiadau i'w cael yma. Oes, mae angen adnoddau enfawr ar y GIG. Mae triniaethau modern yn costio arian. Mae arian wedi bod yn brin. Mae'r adnoddau'n brin. Ond fel y mae'r Aelodau wedi’i ddweud eisoes, gall Llywodraeth Cymru lywio pethau. Gall ymyrryd, os yw hynny’n briodol, a gall sefyll dros bobl leol a gwasanaethau lleol os yw am wneud hynny, os yw'n credu mai'r blaenoriaethau hynny yw blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r bobl, a gadewch inni wynebu hynny, dyma y mae’r rhan fwyaf o bobl ei eisiau.
Credaf fod angen inni gydnabod nad oes atebion hawdd yma. Mae problemau strwythurol wedi cronni dros flynyddoedd lawer yn y GIG—cyn datganoli, mewn gwirionedd—a phroblemau nad yw’n hawdd eu datrys. Nid yw dweud 'Byddwn yn israddio gwasanaethau mewn un ardal ac yn eu cynyddu mewn ardal arall’—os ydych yn lwcus—yn ddigon da yn y byd sydd ohoni. I gyd-fynd â newid trawsnewidiol, mae angen gweledigaeth, gweledigaeth sy'n cynnwys y cyhoedd a chlinigwyr, sy'n gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn aml mewn dadleuon yn y Siambr ei bod am ei wneud: rhoi'r claf ynghanol y broses. Pa mor aml y siaradwn am gydgynhyrchu, rhoi'r claf ynghanol y broses, rhoi'r sawl sy'n derbyn y gwasanaeth yn y canol? Ydy, mae'n syniad gwych ar bapur, ond nid yw wedi digwydd hyd yn hyn mewn dadleuon fel hon, a dyna ddylai ddigwydd.
Yn absenoldeb y weledigaeth honno, fel yr Aelodau eraill, rwy'n credu y dylid gohirio’r broses o israddio gwasanaethau fan lleiaf, y dylid eu hailystyried fan lleiaf, ac y dylid ailasesu ailstrwythuro ledled Cymru lle mae'n gwbl amlwg nad oes cefnogaeth i ailstrwythuro. A dylid sicrhau bod y claf ynghanol y broses.