Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 12 Chwefror 2020.
Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i anfon neges gref o gefnogaeth o blaid cadw’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg; i ddangos faint yn union o bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn gan y bwrdd iechyd; i ddangos pa mor bwysig yw hi fod y bwrdd iechyd yn ailfeddwl ac yn cynnig atebion cryf, diogel a chynaliadwy yn lle hynny.
Rwyf wedi cyd-gyflwyno gwelliant 4 i gofnodi fy ngwrthwynebiad i gau'r uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. I fy etholwyr sy'n byw yng Nghilfynydd, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl, mae llif cleifion yn mynd tuag at Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Byddai cau ei adran damweiniau ac achosion brys yn cael effaith glir a diymwad ar eu gallu i gael mynediad at ofal iechyd brys.
O'r nifer o bobl sy'n anfon e-byst, yn ymuno â grwpiau cyfryngau cymdeithasol, yn arwyddo'r datganiad o gefnogaeth i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gyhoeddwyd ar y cyd gan wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru ac ystod o undebau llafur, pobl sy'n mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ar draws ôl troed y bwrdd iechyd, yn ymgynnull y tu allan i'r Senedd yn gynharach heddiw, gallwn weld yn glir yr ymlyniad angerddol sydd gan aelodau o'r gymuned leol i gadw'r gwasanaeth, i sicrhau bod y bobl sydd angen defnyddio'r gwasanaeth hwnnw yn gallu cael mynediad at wasanaeth damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn eu cymuned leol eu hunain.
Hefyd, nid yw cau yn gwneud synnwyr. Er enghraifft, yn 2019, mynychodd bron i 64,000 o bobl y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hynny dros 2,000 yn fwy nag Ysbyty'r Tywysog Siarl, a 4,500 yn fwy nag Ysbyty Tywysoges Cymru. Er y byddai'n annheg cymharu un ysbyty â’r llall, mae'n deg cydnabod mai adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw'r brysuraf yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae hefyd yn perfformio'n dda iawn. Gan ddefnyddio dangosyddion pedair, wyth a 12 awr, cofnodir yn gyson mai yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg y mae'r ganran uchaf o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn llai na'r amseroedd aros targed. Mae ei ffigurau hefyd yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan ar gyfer trin cleifion. Yn ogystal â hynny, byddai cau gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yno'n cynyddu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg, ond ymhellach i ffwrdd o bosibl. Soniais fod yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi gweld 64,000 o bobl yn 2019. Wel, gadewch i ni ddadansoddi hynny. Dyna dros 5,000 o bobl y mis, neu 166 o bobl y dydd.
Mae'r bwrdd iechyd yn cynnig y dylid gweld y bobl hyn yn ei ysbytai cyffredinol dosbarth eraill, ond a oes ganddynt gapasiti i weld y cynnydd sydyn hwn yn nifer y cleifion, yn enwedig pan ystyriwn y bydd y gwaith o adeiladu tai ychwanegol yn yr ardal yn y dyfodol yn ychwanegu oddeutu 20,000 eiddo ychwanegol yng nghyffiniau Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei hun? Nid yw'r bwrdd iechyd wedi darparu unrhyw ffigurau sy’n awgrymu y gall naill ai Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty'r Tywysog Siarl ymdopi â llif ychwanegol o'r fath.
Mae cynlluniau o'r fath hefyd yn anwybyddu'r ddaearyddiaeth sy'n gwneud Cymoedd de Cymru’n lleoedd mor wych i fyw ynddynt. Mae pellteroedd ac amseroedd teithio i ddefnyddio'r dewisiadau amgen arfaethedig yn bellach ac yn hirach. Mae hynny'n golygu mwy o risg o golli'r awr euraidd hollbwysig ar gyfer triniaeth. A phan fyddwn yn ystyried proffil oedran yr ardaloedd dan sylw, a lefelau uchel y cyflyrau iechyd gwaelodol, mae hyn yn fwy difrifol o lawer. Yn wir, daw’r dystiolaeth fwyaf pwerus o blaid cadw’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan aelodau o deuluoedd sy'n cadarnhau sut y gwnaeth mynediad at y gwasanaeth achub bywydau eu hanwyliaid.
Gobeithio y bydd y ddadl heddiw a’r gefnogaeth unedig gan drigolion a chynrychiolwyr yn annog y bwrdd iechyd i ailfeddwl. Mae eisoes yn bosibl gweld ymdrech ychwanegol yn cael ei gwneud o'r diwedd i recriwtio meddygon ymgynghorol mawr eu hangen. Felly, rwyf am gofnodi fy niolch i'r bwrdd iechyd am hynny. Ond mae hefyd yn gyfle inni ailystyried sut y gwnawn y ddarpariaeth gyfredol hyd yn oed yn well er mwyn lleddfu peth o'r pwysau ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys y rheng flaen. Gadewch i ni ailedrych ar rôl unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol; gallant leddfu pwysau ar unedau damweiniau ac achosion brys a gwneud cymaint yn fwy nag y mae eu henw yn ei awgrymu—trin esgyrn sydd wedi torri, er enghraifft. Credaf ei bod yn warthus, a dweud y gwir, nad yw'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon yn glinig galw i mewn ond yn hytrach yn wasanaeth apwyntiad yn unig. Mae angen edrych ar y pethau hyn eto, ac rwy'n gobeithio y gall hynny fod yn rhan o gynigion y bwrdd iechyd.
Mae cryfder y teimlad y mae hyn wedi’i ennyn yn glir, felly hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i anfon neges gref heddiw a chefnogi gwelliant 4.