Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Pwyllgor Busnes am ganiatáu i fi gael cyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Diolch hefyd i'r 13 o Aelodau eraill a oedd yn barod i'w chyd-gyflwyno efo fi neu ei chefnogi. Rydw i'n meddwl bod y nifer yna'n dangos bod hwn yn fater sydd wedi taro deuddeg efo aelodaeth y Senedd yma'n gyffredinol.
Nodi ydym ni yn y ddadl yma y nifer cynyddol o wasanaethau sydd ar gael ar-lein yn unig, tra bod llawer o bobl yn dal unai heb fynediad at y rhyngrwyd—neu heb fynediad hawdd, yn sicr—neu sydd ddim yn gyfforddus yn defnyddio'r we am ba bynnag reswm. Ac rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn i helpu. Nid rhyw agwedd hen ffasiwn ydy hyn. Nid ymwrthod â thechnoleg newydd ydw i; dwi'n gyfforddus iawn, fy hun, yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, a fel cymaint o bobl, mae technoleg o'r math yma wedi gwneud fy mywyd i, yn sicr, yn haws mewn llawer ffordd. Ond, fel mae mwy a mwy o wasanaethau yn mynd ar-lein, o wasanaethau bancio, post, adnewyddu tocyn bws, llysoedd, hyd yn oed, mae mwy a mwy o bobl mewn peryg o golli allan, a dwi'n gweld o waith achos yn fy swyddfa i bod hyn yn gallu bod yn boen meddwl go iawn i rai, yn enwedig pobl hŷn.
Mae diffyg mynediad at y rhyngrwyd yn broblem i rai, fel y dywedais i, nid yn unig drwy broblemau band llydan—rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn amdanyn nhw droeon, rydw i'n siŵr, ynghyd â nifer o Aelodau eraill—ond hefyd y ffaith bod yna lawer o bobl, eto pobl hŷn yn bennaf, heb gyfrifiaduron na ffonau clyfar. Mae swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn yn dweud wrthyf fi fod gan bron i 30 y cant o bobl rhwng 50 a 64 oed a 65 i 74 ddim mynediad i'r rhyngrwyd. Mae hynny'n mynd i fyny bron i dros 50 y cant ymhlith pobl dros 75 oed.