Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 12 Chwefror 2020.
Fel y nododd y comisiynydd pobl hŷn yn ei hadroddiad 'Cyflwr y Genedl':
'Mae’r defnydd cynyddol a wneir o dechnoleg ddigidol yn golygu bod y ffordd yr ydym yn manteisio ar wasanaethau a gwybodaeth, a’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.'
Fodd bynnag, nid oes gan bawb fynediad at y rhyngrwyd. Mae argaeledd band eang cyflym iawn yn 77 y cant mewn ardaloedd gwledig. Mae gan tua 87 y cant o fusnesau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn, ac eto dim ond 93 y cant o'r holl safleoedd yng Nghymru sy'n gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 95 y cant. Mae Ofcom yn amcangyfrif mai tua 156,000 yw nifer y safleoedd sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru ar hyn o bryd. O gofio'r ffigur hwnnw a'r ffaith nad yw BT Openreach ond yn bwriadu darparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, mae'n amlwg y bydd llawer, gan gynnwys fy etholwyr yng nghwm Crafnant, yn dal i gael eu llethu gan ddiffyg mynediad at ryngrwyd dibynadwy. Yr un mor broblemus yw'r ffaith bod y defnydd o'r rhyngrwyd yn parhau i fod yn isel iawn ymysg ein cenedlaethau hŷn. Nid yw traean o bobl hŷn yn gwneud defnydd personol o'r rhyngrwyd. Mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch ar gyfer pobl dros 75 oed—sef 60 y cant.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i geisio mynd i'r afael â phroblem cynhwysiant digidol. Er enghraifft, pennwyd nod yn y fframwaith strategol a'r cynllun cyflenwi ar gyfer cynhwysiant digidol ym mis Mawrth 2016 i leihau allgáu digidol ymysg oedolion 16 oed a hŷn, er mwyn i fwy o bobl elwa o fod ar-lein a defnyddio technolegau digidol. Fodd bynnag, yn ôl yr adroddiad cynnydd a rhagolwg 2018 ar gynhwysiant digidol, dim ond 77 y cant o breswylwyr tai cymdeithasol sydd â mynediad at y rhyngrwyd, dim ond 51 y cant o aelwydydd pensiynwyr sengl sy'n debygol o fod â mynediad at y rhyngrwyd, ac mae 25 y cant o bobl anabl wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Rwy'n falch fod yr adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i weithio gyda phob sector i fynd i'r afael ag allgáu digidol. Mae'n cydnabod bod cwmnïau telathrebu megis EE, Three, O2, BT a Virgin, a chwmnïau cyfleustodau megis Nwy Prydain, Dŵr Cymru, ac E.ON, gwasanaethau ariannol fel NatWest, Lloyds, Principality, Santander a Barclays, a chwmnïau yswiriant megis Aviva, Admiral ac Endsleigh—i mi gael eu henwi—yn gynyddol yn ceisio cael eu cwsmeriaid i reoli eu cyfrifon ar-lein. Gwnaethpwyd addewid, fodd bynnag, i annog y sector preifat i geisio arwain drwy esiampl ac i ystyried eu cwsmeriaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Felly, buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha gynnydd a wnaethpwyd drwy ymyriadau Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion ar y mater hyd yma.
Credaf y dylid diwygio'r nod er mwyn cynnwys y gofyniad i drafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill yr angen i sicrhau bod dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein yn cael eu cynnig. Yn wir, gellid cefnogi hyn drwy ei ychwanegu fel seithfed adduned i'r siarter cynhwysiant digidol. Ni all yr un ohonom anwybyddu'r ffaith bod angen dewisiadau amgen yn lle gwasanaethau ar-lein. Canfu'r comisiynydd pobl hŷn fod cartrefi all-lein yn colli arbedion o hyd at £560 y flwyddyn drwy siopa a thalu biliau ar-lein. Felly, mae bod all-lein yn costio ffortiwn i'n hetholwyr. Yn ôl arolwg cenedlaethol Cymru, dim ond 79 y cant o bobl sy'n prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein. Mae'n rhaid i ni weithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod mor fforddiadwy a hygyrch all-lein hefyd.
Mae ein cyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, wedi tynnu sylw at enghraifft y system adnewyddu pasys bws. Hoffwn ychwanegu at y rhestr drwy gynnwys ffurflenni cais am y bathodyn glas. Rwyf wedi cael llawer o etholwyr na allant hyd yn oed ddod o hyd i'r rhain heb fynd ar-lein neu ddefnyddio cyfrifiadur, ac maent yn dod i fy swyddfa er mwyn inni helpu, ond dylent allu cael y bathodyn glas heb orfod mynd i'r eithafion hynny.
Yn ddiamau, mae angen inni helpu mwy o bobl i fynd ar-lein a gwneud mwy i hybu argaeledd band eang cyflym iawn. Ond rydym am gael Cymru deg hefyd, felly rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn gryf heddiw a hoffwn ddiolch i Rhun am roi cychwyn arno yn y lle cyntaf. Ac erfyniaf ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau fel yr awgrymwyd yma heddiw i sicrhau, wrth inni ddal i fyny ag oes ddigidol technoleg, y byddwn bob amser yn sicrhau bod ffyrdd traddodiadol o gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cymorth a gwasanaethau yn parhau ar waith. Diolch.