Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 12 Chwefror 2020.
Rydym yn obeithiol y bydd rhai o'r camau gweithredu tymor byr, yn enwedig mewn perthynas ag allgymorth grymusol, wedi dechrau helpu i gael rhai pobl oddi ar y strydoedd. Mae hyn yn fwy pwysig byth pan ystyriwn y cyfrif blynyddol o nifer y rhai sy'n cysgu allan a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad gwreiddiol, dim ond ciplun y gall y cyfrif ei roi, ac ni ellir ei ystyried yn ffigur pendant. Fodd bynnag, mae'n rhoi syniad inni o'r niferoedd sy'n cysgu allan. Mae'n destun pryder felly fod y cyfrif ar gyfer 2019 yn dangos cynnydd o 17 y cant yn y niferoedd o'i gymharu â 2018.
Gan symud ymlaen at y gwaith penodol hwn gan y pwyllgor, mae'n deillio o'r ffaith bod y pwyllgor yn cael ei arwain i raddau helaeth gan brofiad bywyd y rhai sy'n cysgu allan. Fel rhan o'n gwaith dilynol ar ein hadroddiad gwreiddiol, buom yn siarad â rhai sy'n cysgu allan ar draws pob ardal yng Nghymru a'r rheini sy'n rhoi cymorth iddynt. Dro ar ôl tro, clywsom am y rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Clywsom nad yw'r gefnogaeth gywir ar gael i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant ei angen. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a oedd yn barod ac yn abl i rannu eu hatgofion a'u profiadau digon anodd yn aml.
Bu cynnydd gofidus yn nifer y bobl ddigartref sy'n marw ar y strydoedd. O'r marwolaethau hyn, achosir dau o bob pump gan wenwyn cyffuriau. Mae hyn yn annerbyniol, a rhoddodd ysgogiad pellach i edrych yn fanylach ar y mater.
Hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni. Roeddent yn agored ac yn onest yn eu hasesiad o ble roedd y system yn mynd o'i le. Roedd ganddynt hefyd lawer o syniadau am yr hyn y gellid ei wneud yn well. Hoffwn dynnu sylw at ddau o'r pethau a ddywedwyd wrthym. Un ohonynt oedd bod hwn yn fater lle mae'r atebion yn hysbys, a bod angen inni fwrw ati i'w gweithredu. Yn ail, dywedwyd wrthym y gallai fod goblygiadau yn sgil bod yn agored ac yn onest â ni. Nid dyma'r tro cyntaf inni glywed pryderon o'r fath wrth inni ystyried y materion hyn. Felly, buaswn yn falch pe bai'r Gweinidog yn gwneud datganiad clir o gefnogaeth heddiw y dylai sefydliadau allu lleisio pryderon am wasanaethau neu gymorth heb risg o beryglu eu cyllid eu hunain.
Fel yr amlygwn yn ein hadroddiad, ceir llawer o bolisïau, dogfennau strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer y maes hwn. Mae hyn i'w ddisgwyl pan fydd yn torri ar draws cynifer o feysydd polisi gwahanol. Fodd bynnag, mae'n golygu y gall anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd ddisgyn rhwng y bylchau, gan nad oes un unigolyn na sefydliad i sicrhau bod y cyfan yn cael ei dynnu at ei gilydd. Ond rydym yn gweld newid cadarnhaol yn hyn o beth, gyda chamau gweithredu yn y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau a'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i gael y cymorth cywir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed.
Yn ymateb Llywodraeth Cymru, maent yn datgan y bydd y prosiect at wraidd y mater ar anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd yn edrych ar sut y gellid dadflocio problemau i sicrhau y gweithredir fframwaith y gwasanaeth yn llawn ar gyfer anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu beth yw rhai o'r materion penodol hyn ac a ydynt yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r pwyllgor, yn enwedig ar gomisiynu, diwylliant ac arweinyddiaeth.
Clywsom am bocedi o ymarfer da sy'n cynnig cymorth sy'n newid bywydau pobl, ond rydym yn pryderu nad oes gallu i efelychu'r ymarfer da hwnnw ledled Cymru. Clywsom gan y tystion fod natur gystadleuol comisiynu yn aml yn golygu nad yw hyn yn digwydd. Ni all sefydliadau ddysgu gan eraill felly beth sy'n gweithio'n dda neu beidio. Rwy'n falch felly fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 2. Buaswn yn croesawu rhagor o fanylion heddiw am y gwaith ymchwil a gwerthuso a wneir gan y Llywodraeth i gefnogi'r broses o ledaenu ymarfer gorau.
Mae cysylltiad agos rhwng rhannu ymarfer da a diwylliant ac arweinyddiaeth. Dywedodd Dr Sankey o'r Gydweithfa Gofal Cymunedol wrthym am y seilos y mae wedi ceisio eu chwalu i ddod â'r holl wasanaethau cymorth o dan yr un to. Ond mae hyn wedi bod yn heriol ac yn anodd. Eto i gyd, mae gwaith Dr Sankey a'r modelau Tai yn Gyntaf yn dangos i ni y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth integredig a chydlynol. A dyma'r math o gefnogaeth sy'n helpu i ddarparu'r cymorth sy'n newid bywydau'n barhaol, yn dod â phobl oddi ar y strydoedd ac yn eu galluogi i reoli eu camddefnydd o sylweddau a'u cyflyrau iechyd meddwl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 4 mewn egwyddor, argymhelliad a oedd yn galw arnynt i arwain y gwaith o gyflwyno'r newid diwylliant sy'n angenrheidiol. Yn eu hymateb, maent yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i awdurdodau lleol gamu ymlaen i ddarparu'r arweinyddiaeth strategol hon. Rydym braidd yn bryderus y gallai hyn olygu bod darpariaeth dameidiog yn parhau, gydag integreiddio'n amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd?
Rydym hefyd yn nodi'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y grant cymorth tai yn eu hymateb, a byddwn yn parhau i alw am gynyddu'r cyllid pwysig hwn yng nghyllideb 2020-21.
Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, gobeithiwn y byddwn yn dechrau gweld y newidiadau angenrheidiol sy'n golygu ein bod yn gweld llawer llai o bobl ar ein strydoedd, a bod y rhai sydd yno'n cael cymorth yn gyflym ac yn amserol. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed barn Aelodau eraill, ac at ymateb y Gweinidog wrth gwrs. Diolch yn fawr.